Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn penodi Arweinydd, Maer a Chabinet

Mae’r Cynghorydd Huw David wedi cael ei ailethol fel Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Dychwelodd y Cynghorydd David, sydd hefyd yn aelod ward ar gyfer Cefn Cribwr, yn ddiwrthwynebiad fel Arweinydd yr awdurdod lleol yn y cyfarfod blynyddol o’r Cyngor a gynhaliwyd ddydd Mercher 15 Mai.

Etholwyd y Cynghorydd Stuart Baldwin yn ddiwrthwynebiad fel Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan olynu'r Cynghorydd John McCarthy, a bydd y Cynghorydd Ken Watts yn gwasanaethu fel Dirprwy Faer.

Cytunwyd ar ddeiliaid portffolio'r Cabinet ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod hefyd:

  • Dirprwy Arweinydd – Y Cynghorydd Hywel Williams
  • Aelod o'r Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar – Y Cynghorydd Phil White
  • Aelod o'r Cabinet ar gyfer Addysg ac Adfywio – Y Cynghorydd Charles Smith
  • Aelod o'r Cabinet ar gyfer Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol - Y Cynghorydd Dhanisha Patel
  • Aelod o'r Cabinet ar gyfer Cymunedau – Y Cynghorydd Richard Young

 

Cadarnhawyd y grwpiau ac arweinwyr y grwpiau fel a ganlyn:

  • Llafur (26) - Y Cynghorydd Huw David
  • Cyngres Annibyniaeth (10) - Y Cynghorydd Norah Clarke
  • Ceidwadwyr (8) - Y Cynghorydd Tom Giffard
  • Plaid Cymru (3) - Y Cynghorydd Malcolm James
  • Annibynwyr Llynfi (3) - Y Cynghorydd Ross Penhale-Thomas

 

Nid yw pedwar cynghorydd -  Ken Watts, Jeff Tildesley, Roz Stirman a Julia Williams -   yn aelodau o unrhyw grŵp yn y cyngor.

Bydd angen ffocws cadarn yn ystod y deuddeg mis nesaf. Mae degfed flwyddyn o gyni cenedlaethol yn prysur nesáu ac mae'r dyfodol yn parhau’n heriol iawn i lywodraeth leol. Rydyn ni’n amcangyfrif y bydd rhaid i’r cyngor arbed £35m pellach yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod a does dim ffordd o falansio'r llyfrau heb weld effaith sylweddol ar wasanaethau lleol a chynnydd pellach yn y dreth gyngor.

Mae llywodraeth leol, ac yn wir cymdeithas, mewn cyfnod o bontio. Rydyn ni’n dal i wynebu ansicrwydd Brexit, yn rhan bellach o ardal awdurdod iechyd newydd, yn wynebu pwysau cynyddol am fwy o gydweithredu rhanbarthol, yn profi mwy o alw nag erioed o’r blaen am ein gwasanaethau, ac yn gweld newidiadau hynod gyflym yn y rôl mae cynghorau’n ei chwarae ym mywydau’r bobl sy’n byw ledled y DU.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn barod i wneud penderfyniadau anodd yn ystod y cyfnod hwn ond wedi parhau i ganolbwyntio ar ddiogelwch a lles cyson ein trigolion mwyaf agored i niwed. Mae'r gwytnwch a’r blaenoriaethu yma wedi bod yn asgwrn cefn i’n hymdrechion hyd yma ac rwy’n gwybod ei fod yn ethos y byddwn ni i gyd eisiau parhau ag ef. Drwy gydweithio i warchod ein gwasanaethau hanfodol ar gyfer y bobl sydd fwyaf agored i niwed, gan flaenoriaethu buddsoddiad yn y dyfodol, fe allwn ni sicrhau bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gallu parhau i wynebu'r heriau anochel sydd o’n blaen.

Wrth annerch y cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Huw David

Am ragor o fanylion am aelodau etholedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ewch i’r tudalennau ‘Democratiaeth ac Etholiadau’

Chwilio A i Y