Cyngor yn nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog 2021
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 23 Mehefin 2021
Mae baner y Lluoedd Arfog yn hedfan y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig yr wythnos hon i gydnabod Diwrnod y Lluoedd Arfog 2021, ar ddydd Sadwrn 26 Mehefin.
Er bod cyfyngiadau’r pandemig wedi atal seremoni codi baner ffurfiol eleni, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn defnyddio'r achlysur i atgoffa aelodau presennol a rhai sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog bod Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog ar waith i roi cymorth a chefnogaeth iddynt.
Mae'r cyfamod, sydd wedi bod ar waith ers 2013, yn addo cefnogaeth ar y cyd rhwng pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, cymuned y lluoedd arfog, sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus, busnesau lleol a'r sectorau elusennol a gwirfoddol.
Mae'n dod â sefydliadau ynghyd ar lefel leol i weithio mewn partneriaeth a defnyddio eu gwybodaeth, eu profiad a'u harbenigedd arbenigol i roi cymorth, cefnogaeth a chyngor priodol i aelodau o gymuned y lluoedd arfog.
Dros y blynyddoedd, mae'r cyfamod cymunedol wedi'i ddatblygu a'i ehangu i gynnig amrywiaeth o fanteision. O ganlyniad, mae ymgeiswyr tai sydd angen llety wedi'i addasu oherwydd anafiadau a gafwyd yn ystod eu hamser yn gwasanaethu neu y gallai fod angen iddynt ddod o hyd i rywle i fyw o ganlyniad i adael y Lluoedd Arfog yn cael blaenoriaeth.
Mae Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor wedi'i ddiwygio fel nad yw pensiynau gweddw rhyfel bellach yn cael eu cynnwys wrth gyfrifo incwm person, ac mae'r Polisi Dyrannu Lleoedd Ysgol yn sicrhau nad yw cyn-filwyr dan anfantais wrth ddychwelyd i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Gall personél sy'n gwasanaethu a chyn-filwyr hefyd fwynhau sesiynau am ddim mewn pyllau nofio Halo lleol ar draws y fwrdeistref sirol, a gallant wneud cais i'r gronfa cyfamod cymunedol am gymorth ariannol a gynlluniwyd i'w helpu i integreiddio i fywyd sifil.
Mae Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog yn ei gwneud yn haws i bersonél y lluoedd arfog, teuluoedd a chyn-filwyr gael y cymorth, y gefnogaeth a'r gydnabyddiaeth y maent wir yn eu haeddu.
Mae wedi'i gynllunio'n arbennig i ategu Cyfamod cenedlaethol y Lluoedd Arfog, sy'n amlinellu'r rhwymedigaeth foesol rhwng y genedl, y llywodraeth a'r lluoedd arfog.
Yn ogystal â chynrychioli arwydd o barch, mae'r cyfamod cymunedol yn dangos nad yw pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi anghofio gwasanaeth, aberth ac ymroddiad ein lluoedd arfog.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y cyngor