Cyngor yn mabwysiadu strategaeth ddigidol newydd
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 18 Tachwedd 2020
Mae cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i fabwysiadu strategaeth ddigidol newydd i ddatblygu'r ffordd y mae trigolion, busnesau ac ymwelwyr yn ymgysylltu â'r cyngor.
Fel rhan o ymgynghoriad cyllideb 2019, dangosodd adborth fod 87% o drigolion Pen-y-bont ar Ogwr eisiau mwy o wasanaethau cyngor ar-lein gan ddefnyddio swyddogaethau ar-lein gwell a mwy modern, yn ogystal â chyfleusterau hunan-wasanaeth.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), mae gan 85% o drigolion Pen-y-bont ar Ogwr fynediad i'r rhyngrwyd ac mae'n well ganddynt gyfleustra trafodion ar-lein.
Un o nodau'r strategaeth bedair blynedd, sy'n rhedeg tan 2024, yw integreiddio systemau a lleihau dyblygu, caffael technoleg a gwasanaethau sy'n datblygu, a darparu gwerth am arian drwy wneud defnydd doethach o adnoddau.
Fel rhan o'r strategaeth, bydd y cyngor hefyd yn archwilio 'Rhyngrwyd Pethau' - gwrthrychau ffisegol fel Alexa, sy'n cysylltu â'r rhyngrwyd - ar gyfer technoleg a allai wella llesiant a diogelwch preswylwyr yn eu cartrefi. Er enghraifft, larymau personol a thechnoleg adnabod llais i atal colli annibyniaeth a galluogi cymunedau i fod yn fwy gwydn.
Wrth siarad mewn cyfarfod cabinet ar 17 Tachwedd, dywedodd dirprwy arweinydd ac aelod cabinet y cyngor am adnoddau, y Cynghorydd Hywel Williams: "Bydd y galw am wasanaethau digidol yn cynyddu'n gynt dros y pedair blynedd nesaf. Mae'r strategaeth wedi'i nodi'n glir iawn, mae'n annog pobl i ymgysylltu â'r cyngor yn ddigidol ac olrhain pa wasanaethau sydd eu hangen – gallwn sicrhau ateb y galw am wasanaethau."
Dywedodd yr aelod Cabinet dros lesiant a chenedlaethau'r dyfodol, y Cynghorydd Dhanisha Patel, fod y strategaeth yn adlewyrchu sut mae'r cyngor wedi llwyddo i fod ar y blaen â newidiadau mewn technoleg ac ychwanegodd y bydd preswylwyr nad ydynt yn gallu mynd ar-lein yn parhau i gael eu cefnogi.
Dywedodd: "Byddwn bob amser yn ystyried y rhai nad ydynt yn gallu cysylltu'n ddigidol. Yn ystod pandemig Covid-19 rydym wedi rhoi gliniaduron i'r rhai sydd eu hangen ac rydym hefyd wedi gwneud gwaith gwych gyda'r gwasanaethau cymdeithasol i'r rhai sy'n fregus wrth ddefnyddio Alexa."
Dywedodd arweinydd y Cyngor, Huw David, hefyd y bydd yr awdurdod lleol yn parhau i roi cymorth i'r rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol, gan ychwanegu: "Mae'n bwysig bod gennym strategaeth ddigidol sy'n hygyrch i bawb, yn ogystal â bod yn hyblyg. Gall yr hyn i'w ddisgwyl yn y dyfodol newid o fewn misoedd oherwydd newidiadau sy'n symud yn gyflym o safbwynt technoleg a chymdeithas. Er enghraifft, ni fyddem byth wedi dychmygu naw mis yn ôl y byddai pob un o gyfarfodydd ein cyngor yn cael eu cynnal yn rhithiol yn hytrach nag wyneb yn wyneb oherwydd coronafeirws.
"Rydyn ni'n fwy dibynnol ar dechnoleg nag erioed o'r blaen – mae'n sail i bopeth rydym yn ei wneud fel awdurdod lleol. Ni allai ein gwasanaethau weithredu heb system ddigidol effeithiol gref wrth wraidd."
Nawr mae'r strategaeth wedi'i mabwysiadu, mae cynllun gweithredu'r cyngor yn cynnwys:
- Cyflwyno llwyfan mynediad digidol newydd sy'n cynnwys rheoli cwsmeriaid a gwella hunanwasanaethu
- Datblygu'r wefan gorfforaethol i gynnwys pob tudalen we annibynnol sy'n sicrhau bod yr holl wybodaeth am y gwasanaeth i'w gweld mewn un lle a'i bod ar gael yn rhwydd
- Gwella ymarferoldeb y swyddogaeth bot sgwrsio i'r rhai sy'n dymuno defnyddio'r ffordd yma o gyfathrebu
- Ymgynghori â phreswylydd i ofyn iddynt pa wasanaethau digidol yr hoffent eu cael sy'n diwallu eu hanghenion a'u gofynion
- Cyflwyno system Gofal Cartref amserlennu electronig awtomataidd ar gyfer gwella gwasanaethau i'r preswylwyr mwyaf bregus
- Sicrhau bod y cyngor yn addas i'r diben a'i fod wedi'i alluogi'n ddigidol i gefnogi gweithio hyblyg
- Sicrhau bod gan ysgolion seilwaith digidol rhagorol sy'n sicrhau cymhwysedd digidol uchel yn unol â'r cwricwlwm