Cyngor yn lansio ymgyrch 'Treuliwch yr Ŵyl yng nghanol eich tref'
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 18 Tachwedd 2022
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn lansio ei ymgyrch 'Treuliwch yr Ŵyl yng nghanol eich tref' heddiw (18 Tachwedd), sy'n annog pobl i gefnogi busnesau lleol a'u cymuned leol.
Mae'r ymgyrch yn lansio gyda fideo Nadolig hwyliog 2022 y cyngor ar YouTube, yn arddangos yr amrywiaeth o fasnachwyr, bwytai, bariau, salonau harddwch a mwy sydd ar gael ar eich stepen drws.
Yn canolbwyntio ar bob agwedd ar y Nadolig, mae'r ymgyrch yn annog pobl i ymweld â chanol eu tref leol yn yr wythnosau cyn y Nadolig er mwyn siopa am anrhegion, i gymdeithasu â ffrindiau ac i ddathlu hwyl yr ŵyl gyda'u hanwyliaid.
Mae gwefan Nadolig Digidol wedi'i lansio er mwyn annog pobl i siopa'n lleol, a fydd ar gael tan 5 Ionawr 2023. Yn benodol i gefnogi busnesau canol trefi, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfle i fusnesau yng nghanol trefi Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg hysbysebu eu cynigion hyrwyddo am ddim ar y wefan 'Nadolig Digidol'.
Fel rhan o'r gwaith o hyrwyddo'r wefan, mae tri ap ar gael i bobl eu lawrlwytho er mwyn cael gafael ar gynigion siopa - We Love Bridgend / Porthcawl /Maesteg. Gallwch lawrlwytho'r apiau o Apple App Store neu Google Play drwy chwilio am BRIDGEND / PORTHCAWL / MAESTEG.
Gallwch hefyd ddysgu mwy am y digwyddiadau a'r gorymdeithiau Nadoligaidd diweddaraf sy'n cael eu cynnal ledled y fwrdeistref sirol ar wefan y cyngor.
Mae ein ffilm Nadolig eleni wir yn dangos pa mor bwysig yw cysylltu â'n gilydd, a'r ymdeimlad o berthyn i gymuned. Mae gennym lu o fusnesau annibynnol, arbennig, sy'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau a chynnyrch unigryw.
Mae'r ffilm hefyd yn dangos brwdfrydedd ac angerdd yr holl berchnogion busnesau bach dros gyflawni'r gorau i'w cwsmeriaid, a sicrhau bod canol ein trefi yn llefydd gwych i ymweld â nhw. Ynghyd â chynnig opsiwn gwych i gwsmeriaid fynd ati i wneud eu siopa Nadolig, mae ein busnesau bach yng nghanol trefi Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg yn cynnig gwasanaethau gwych, traddodiadau hardd ac arloesedd.
Rwy'n annog pawb i gefnogi ein busnesau lleol, nid yn unig yn ystod y Nadolig, ond drwy gydol y flwyddyn, er mwyn sicrhau bod canol ein trefi'n parhau i ffynnu.
y Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Adfywio