Cyngor yn lansio gwasanaeth ‘sglodyn ac archwilio’ Brexit ar gyfer gwladolion yr UE
Poster information
Posted on: Dydd Llun 20 Mai 2019
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i sicrhau bod cefnogaeth amrywiol ar gael wrth i fusnesau a thrigolion baratoi ar gyfer y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Ddydd Llun 3 Mehefin, bydd gwasanaeth ‘sglodyn ac archwilio’ newydd yn cael ei lansio er mwyn helpu gwladolion yr UE sy’n dymuno gwneud cais am barhau i fyw a gweithio yn lleol. Mae’r gwasanaeth ar gyfer pobl sydd angen sganio a chofrestru eu dogfennau adnabod fel rhan o’u ceisiadau i sicrhau statws preswylydd sefydlog a phreswylydd cyn-sefydlog.
Mae’r gwasanaeth ar gael yn Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr ac mae ar gael fel opsiwn yn lle defnyddio ap y Llywodraeth, sy’n galluogi sganio dogfennau gan ddefnyddio ffôn symudol neu ddyfais dabled.
Mae’n cael ei ddarparu am ddim i drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn costio £14 i bobl nad ydynt yn drigolion ond sy’n defnyddio’r gwasanaeth.
Rydyn ni’n darparu’r gwasanaeth yma i gefnogi nid yn unig gwladolion yr UE sydd eisiau parhau i fyw a gweithio yn y fwrdeistref sirol ar ôl i'r DU adael Ewrop, ond hefyd y busnesau a'r cyflogwyr lleol sy’n dibynnu ar eu sgiliau.
Er nad yw’r gwasanaeth sganio’n gwarantu llwyddiant cais nac yn darparu diweddariadau statws, bydd yn helpu pobl wrth iddyn nhw gasglu'r deunyddiau angenrheidiol a symud drwy'r broses.
Bydd apwyntiadau ar gyfer y gwasanaeth sglodyn ac archwilio ar gael o ddydd Gwener 24 Mai a gallwch drefnu un drwy ffonio 01656 642391 neu anfon e-bost i registrar@bridgend.gov.uk.
Arweinydd y Cyngor, Huw David
Ewch i'r dudalen Paratoi ar gyfer Brexit ar wefan y cyngor i gael gwybod mwy am gefnogaeth i drigolion, busnesau, grwpiau gwirfoddol a sefydliadau lleol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.