Cyngor yn gyntaf yng Nghymru i dreialu biniau sy'n cael eu pweru gan yr haul
Poster information
Posted on: Dydd Iau 01 Gorffennaf 2021
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw'r cyntaf yng Nghymru i dreialu biniau sy'n cael eu pweru gan yr haul.
Mae pedwar o'r biniau technolegol wedi'u gosod mewn mannau poblogaidd o amgylch Porthcawl sydd wedi'u dewis yn arbennig cyn yr ymchwydd disgwyliedig yn nifer yr ymwelwyr â'r dref glan môr yn ystod misoedd prysur yr haf.
Yn ogystal â hunanreoli gwastraff i gynyddu'r capasiti hyd at chwe gwaith, bydd y bin clyfar hefyd yn hysbysu timau'r cyngor pan fyddant yn llawn, yn darparu amlder defnydd, yn pwyso'r gwastraff ac yn lleihau nifer y teithiau i wagio'r biniau.
Mae gan y biniau newydd a weithredir gan bedal hefyd ran bwrpasol ar wahân i gael gwared ar sigaréts yn ddiogel.
Darparwyd cyllid ar gyfer y treial, sef y cyntaf o'i fath yng Nghymru, fel rhan o grant Caru Cymru Cadwch Gymru'n Daclus, sy'n cefnogi prosiect 'Ei Charu a'i Chadw'n Lân' wrth ystyried mentrau i fynd i'r afael â sbwriel ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r pedwar bin prawf wedi'u lleoli wrth y slip yn Rest Bay, y tu allan i Westy Seabank, ar lan y môr gyferbyn â Harbour Fish Bar ac ym Mharc Griffin.
Mae'r biniau solar hyn yn ychwanegiad ardderchog i Borthcawl a gobeithio y byddant yn arwain at lai o finiau’n gorlifo ar lan y môr, yn enwedig yn ystod misoedd prysuraf yr haf lle bydd y rhain yn ddefnyddiol iawn wrth ddarparu ar gyfer y penwythnosau prysur a Gwyliau Banc.
Yn flaenorol, byddai pecynnau cardbord yn achosi i finiau lleol lenwi’n gyflym iawn. Diolch i elfen gywasgedig y biniau newydd hyn, ni fydd hynny'n broblem mwyach. Mae'r rhain yn ddatblygedig iawn yn dechnolegol a byddant yn ein helpu i ddeall arferion gwastraff yn yr ardal yn well tra'n lleihau amlder casgliadau gwastraff ac yn gwneud arbedion o ran costau gwasanaethu.
Rydym yn falch o fod y cyngor cyntaf yng Nghymru i gynnal y treial hwn ac yn profi ein hymrwymiad parhaus i ddiogelu ein planed
Cynghorydd Stuart Baldwin, Aelod Cabinet dros Gymunedau