Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn gwneud cynlluniau etholiadol ar gyfer y pandemig

Gyda disgwyliadau cynyddol y bydd etholiadau Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn cael eu cynnal ym mis Mai, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn bwriadu bwrw ymlaen i sicrhau y bydd pobl yn gallu bwrw eu pleidleisiau yn ddiogel.

Dywedodd y Prif Weithredwr Mark Shephard, sydd hefyd yn gweithredu fel Swyddog Canlyniadau'r fwrdeistref sirol yn ystod etholiadau: “Os bydd hysbysiad pleidleisio yn cael ei gyhoeddi’n ffurfiol yn nodi bod etholiadau'n mynd rhagddynt, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gwneud pob ymdrech i amddiffyn pleidleiswyr a staff rhag dod i gysylltiad â'r coronafeirws, ac i sicrhau y gellir cynnal yr etholiadau gyda chyn lleied o aflonyddwch ag sy’n bosibl.

“Mae ein tîm etholiadol eisoes yn gweithio'n galed ac yn paratoi i gyflwyno nifer o newidiadau o ganlyniad uniongyrchol i'r pandemig.

“Bydd pleidleiswyr yn dal i allu mynd i orsaf bleidleisio leol, ond gan nad yw rhai lleoliadau traddodiadol ar gael mewn rhai ardaloedd ar hyn o bryd, rydym yn gorfod dod o hyd i leoliadau eraill.

“Yn y gorsafoedd pleidleisio eu hunain, byddwn yn cyfyngu ar nifer y pleidleiswyr sy'n gallu mynd i mewn ar unrhyw un adeg, a lle bo'n bosibl byddwn yn gweithredu system unffordd.

“Bydd yn ofynnol i bleidleiswyr ddefnyddio gorchuddion wyneb a diheintydd dwylo ym mhob gorsaf, tra bydd sgriniau'n cael eu gosod i helpu i'w cadw'n ddiogel wrth iddynt gasglu eu papurau pleidleisio cyn bwrw eu pleidlais.

“Y ffordd fwyaf diogel o bleidleisio, wrth gwrs, fydd gwneud hynny drwy'r post. Rydym yn rhagweld cynnydd yn nifer y ceisiadau am yr opsiwn hwn, a byddwn yn cyflogi staff ychwanegol i sicrhau y gellir prosesu'r cyfan yn effeithlon.

Cyn bo hir, bydd aelwydydd yn derbyn llythyr hysbysu a fydd yn rhoi gwybod i breswylwyr pwy sydd ar y gofrestr etholiadol ym mhob cyfeiriad, beth yw eu dewis pleidleisio presennol, ac opsiynau ar gyfer newid y dewis hwnnw os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny.

O ran y cyfrif etholiadol ei hun, cytunwyd eisoes, os bydd yr etholiadau'n mynd rhagddynt, na fydd y cyfrif yn digwydd tan y diwrnod canlynol. Er bod gennym leoliad addas ar gyfer hyn, bydd angen nifer o newidiadau ymarferol.

Bydd nifer y staff sy'n gallu bod yn bresennol yn y cyfrif yn gyfyngedig oherwydd gofynion y pandemig. Bydd cadw pellter diogel yn weithredol, felly bydd newidiadau ffisegol i sicrhau bod dau fetr rhwng cownteri a'r ymgeiswyr a'r swyddogion cyfrif a fydd yn eu harsylwi. Er y gallai'r effaith ar niferoedd staff olygu y gallai'r cyfrif gymryd mwy o amser i'w gwblhau, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y cyfan yn rhedeg yn rhwydd, yn effeithlon ac yn ddiogel, ac y gellir dychwelyd canlyniadau cywir ar gyfer etholiadau'r Senedd a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Dywedodd y Prif Weithredwr Mark Shephard
  • Cadwch lygad am fwy o fanylion yn fuan.

Chwilio A i Y