Cyngor yn dechrau partneriaeth newydd i gynnig gwasanaeth tai
Poster information
Posted on: Dydd Llun 29 Tachwedd 2021
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio mewn partneriaeth â’r elusen o Gymru, Adferiad Recovery, i gyflwyno system cymorth tai arbenigol i bobl sydd â hanes o fod yn ddigartref sawl tro.
Mae Tai yn Gyntaf, a gafodd ei gyflwyno i’r fwrdeistref sirol yn wreiddiol yn 2019, yn ddull unigryw gyda’r nod o helpu i fynd i’r afael â digartrefedd drwy gefnogi pobl sydd ag anghenion cymhleth a lluosog i ddod o hyd i gartrefi sefydlog.
Mae’r gwasanaeth yn cefnogi unigolion digartref i sicrhau llety addas cyn gynted â phosibl, ac yna’n cynnig cymorth cyffredinol arbenigol i'w helpu i gael y cyfle gorau o gynnal y denantiaeth honno ac osgoi dod yn ddigartref eto. Disgwylir i’r gwasanaeth gefnogi a darparu ar gyfer 10-15 unigolyn y flwyddyn.
Mae’r cymorth dwys a chydlynol yn amrywio yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn, a all gynnwys dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau, problemau corfforol ac iechyd meddwl.
Bydd cytundeb tair blynedd rhwng yr awdurdod lleol ac Adferiad Recovery yn dechrau ar 1 Ionawr 2022, yn disodli’r gwasanaeth Tai yn Gyntaf presennol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd ar fin dod i ben ar ddiwedd 2021, a bydd yn cael ei ariannu gan Grant Cymorth Tai’r cyngor.
Mae’r gwasanaeth arbenigol hwn yn allweddol i’n hymrwymiad i fynd i’r afael â digartrefedd ledled y fwrdeistref sirol.
Ers y dechrau, rydym wedi profi llwyddiannau sylweddol, gyda nifer o bobl a oedd wedi bod yn cysgu ar y stryd neu’n methu â chynnal llety yn flaenorol, bellach yn cynnal eu tenantiaeth eu hunain.
Wrth barhau i gynnig y gwasanaeth Tai yn Gyntaf, rydym yn medru cefnogi rhai o’n trigolion mwyaf bregus pan maent fwyaf mewn angen.
Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol
I gael gwybod mwy am Tai yn Gyntaf yng Nghymru, ewch i wefan Cymorth Cymru.