Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn dathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2023

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dathlu cyfraniad gwerthfawr ei brentisiaid yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau a gynhelir rhwng 6 a 12 Chwefror 2023.

Ar hyn o bryd, mae gan y cyngor 24 prentis yn gweithio ar draws 10 gwahanol adran, gan gynnwys Cymorth Busnes, TGCh, Gofal Cymdeithasol, Priffyrdd, a Mannau Gwyrdd. 

Ers i’r rhaglen brentisiaethau gael ei lansio yn 2013, mae’r cyngor wedi cefnogi 116 o brentisiaid yn llwyddiannus - gyda llawer ohonynt wedi mynd ymlaen i gael swydd gyda’r awdurdod lleol.

Dechreuodd Aimie Shanahan ei gyrfa mewn gofal cymdeithasol gyda phrentisiaeth ddwy flynedd yn y cyngor, yn dilyn ei phenderfyniad i newid gyrfa pan oedd ar ffyrlo yn ystod y pandemig.

“Roeddwn i’n meddwl y byddai cael cymwysterau newydd yn rhywbeth na fyddwn yn gallu ei wneud oherwydd fy oed i,” dywedodd Aimie.

“Roedd bob swydd roeddwn i’n edrych arni angen cymhwyster Lefel QCF, ac roedd hwn y cyfle perffaith i mi gael cymhwyster, a pharhau i weithio ar yr un pryd.

“Rydych yn dal i wneud yr un swydd, ond rydych yn dysgu wrth i chi ei gwneud. Mae gennyf forgais a theulu, ac ni chefais unrhyw anawsterau ariannol drwy gydol y brentisiaeth. Os alla i ei wneud, fe all rywun!”

Hefyd, mae Laura Ashton yn gyn Brentis Caffael, ac ers hynny wedi mynd ymlaen i weithio i’r cyngor fel Cynorthwyydd Cefnogi Categori. Dywedodd: “Mi wnes i fwynhau fy mhrentisiaeth yn fawr, ac mae’n amlwg fod y sgiliau a ddysgais yn amhrisiadwy i’m swydd bresennol, a fy ngyrfa yn y dyfodol yn gyffredinol.”

Mae prentisiaethau yn caniatáu i ni fel awdurdod lleol recriwtio talent newydd sy’n awyddus i ddysgu, ac yn caniatáu i unigolion ddatblygu sgiliau proffesiynol a chael profiad gwerthfawr, wrth ennill cyflog a gweithio tuag at gymhwyster achrededig.

Mae gan y cyngor ystod eang o wahanol adrannau, a phan rydych yn ystyried y gwahanol brentisiaethau a gynigir - mae’n gyfuniad perffaith.

Dywedodd y Cynghorydd Hywel Williams, Aelod Cabinet dros Adnoddau:

Hysbysebir prentisiaethau sydd ar gael yn y cyngor ar dudalen swyddi Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Am gyngor a gwybodaeth bellach am brentisiaethau, cysylltwch â Gyrfa Cymru ar 0800 100 900 neu ewch i wefan Gyrfa Cymru.

Chwilio A i Y