Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn dathlu llwyddiant ymgyrch Nadolig Digidol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dathlu llwyddiant ei ymgyrch Nadolig Digidol.

Wedi’i lansio ym mis Tachwedd, nod yr ymgyrch oedd denu siopwyr i ganol trefi Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Phorthcawl gydag ystod o gynigion deniadol.

Cafodd busnesau eu gwahodd i arddangos eu cynnyrch a hysbysebu cynigion hyrwyddo ar y wefan Nadolig Digidol, calendr adfent ac ap canol y dref honno.

Yn ystod y mis cyntaf ar ôl eu lansio, denodd y wefan dros 1,500 o ymwelwyr y diwrnod, ac mae’r apiau wedi cael eu lawrlwytho dros 1,400 o weithiau, gyda siopwyr yn medru manteisio ar fargeinion gan dros 340 o fusnesau a oedd wedi’u cofrestru ar yr ymgyrch.

Mae’r ymgyrch hefyd wedi bod yn boblogaidd ymysg busnesau a oedd wedi cymryd rhan. Dywedodd Ian Cole, cyfarwyddwr ariannol Jenkins Bakery, sydd â changhennau ym Mhorthcawl a Phen-y-bont ar Ogwr: “Mae apiau Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl yn edrych yn wych.”

Dywedodd James Saunders, cyfarwyddwr Saunders & Co, Maesteg: “Fel busnes annibynnol ym Maesteg ac ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae cymorth y cyngor wedi bod yn hwb mawr, yn ogystal â’r cysyniad arbennig hwn i gysylltu busnesau pob tref gyda’i gilydd, wrth gadw’u hunaniaeth gydag apiau’r trefi.

Ychwanegodd Michelle Smith, cyfarwyddwr Divine ym Mhorthcawl: “Am fenter arbennig ar gyfer y fwrdeistref sirol. Rydym wedi cael adborth gwych o’r ymgyrch cyfryngau cymdeithasol.”

Mae’n wych gweld pa mor llwyddiannus mae’r ymgyrch hon wedi bod.

Nid yn unig mae wedi cynnig rhai cynigion arbennig i siopwyr yn y fwrdeistref sirol, ond mae hefyd wedi rhoi hwb i ganol ein trefi a busnesau annibynnol ar adeg pan maent angen pob cymorth gallwn ni ei roi iddynt.

Ceisiwch barhau i gefnogi ein busnesau annibynnol, nid yn ystod y Nadolig yn unig, ond drwy gydol y flwyddyn.

Stuart Baldwin, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau

Mae’r ymgyrch Nadolig Digidol yn parhau tan 5 Ionawr 2022. Ewch i’r wefan i ddysgu mwy ac i ddatgelu cynigion ecsgliwsif gan gannoedd o fanwerthwyr lleol.

Chwilio A i Y