Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn dathlu llwyddiant prentisiaid presennol a blaenorol

Dathlwyd llwyddiant prentisiaid presennol a blaenorol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn digwyddiad arbennig i nodi Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2018.

Daeth deg ar hugain o brentisiaid presennol, a 17 o brentisiaid blaenorol sydd wedi mynd ymlaen i gael gwaith parhaol yn y cyngor, at ei gilydd i drafod eu profiadau.

Mae’r cyngor – sef cyflogwr mwyaf y fwrdeistref sirol – yn cyflogi 24 o brentisiaid ar hyn o bryd mewn amrywiaeth eang o adrannau, gan gynnwys Gweinyddu Busnes, Dysgu a Datblygu, Peirianneg Sifil a Strwythurol, a TG, yn ogystal â chwe phrentis yn Ysgol Heronsbridge.

Mae pob un o’r prentisiaid yn magu profiad wrth ennill cyflog, ac yn gweithio tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.

Un o’r rhai sy’n rhoi dechrau da i’w gyrfaoedd o ganlyniad i gynllun y cyngor yw Loren Stephens, prentis ym maes Dysgu a Datblygu, ac meddai: “Nid oedd mynd i brifysgol y dewis iawn i mi, felly treuliais amser yn ystyried y dewisiadau a oedd ar gael i mi ac roeddwn i’n meddwl byddai prentisiaeth yn ddelfrydol. Rwy’n falch iawn o fod yn gallu ennill a dysgu, a chael llawer iawn o brofiad gwerthfawr a fydd o fantais i mi yn y dyfodol.

Un esiampl dda ar gyfer y garfan bresennol o brentisiaid y cyngor yw Cory Tyzack, a ymunodd â’r awdurdod lleol fel prentis yn yr adran TG ac sydd ers hynny wedi cael swydd amser llawn, a dyrchafiad hefyd.

Meddai Cory, sy’n dair ar hugain oed: “Mae gwneud prentisiaeth wedi fy helpu i gamu i’r yrfa sy’n ddeniadol i mi, ac mae wedi fy ngalluogi i ennill rhagor o gymwysterau a phrofiad yn y swydd. Byddwn i’n sicr yn argymell prentisiaeth i unrhyw un.”

Mae Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yn darparu cyfle gwych i gyflogwyr ledled y DU ddathlu llwyddiant prentisiaethau, ac annog hyd yn oed mwy o bobl ifanc i ddewis prentisiaethau fel llwybr i yrfa wych.

Rydym wedi cynnig ein rhaglen brentisiaethau ers 2013, ac roedd hi’n wych cael cwrdd â’n holl brentisiaid presennol, yn ogystal â’r rhai sydd wedi cwblhau eu prentisiaethau ac wedi sicrhau swydd gyda’r cyngor ers hynny.

Rydym ni’n ymrwymedig i gefnogi pobl ifanc trwy greu cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau pryd bynnag y bo hynny’n bosibl ac i ddatblygu rheolwyr y dyfodol, a hoffwn ddymuno pob llwyddiant i bob un o’n prentisiaid presennol yn eu gyrfaoedd.

Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.


I gael gwybod mwy am y cyfleoedd presennol sydd yn y cyngor, ewch i’w dudalen gyrfaoedd yn ein tudalen Swyddi, ac mae rhagor o wybodaeth a chyngor ar brentisiaethau ar gael drwy ffonio Gyrfa Cymru ar 0800 100 900 neu drwy fynd i Wefan Gyrfa Cymru.

Chwilio A i Y