Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn dathlu gwaith allweddol gweithwyr cymdeithasol

Dydd Mawrth, 16 Mawrth, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dathlu Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd gyda gweithwyr cymdeithasol lleol ac ar draws y byd.

Thema digwyddiad eleni, sy'n cael ei drefnu gan y Ffederasiwn Rhyngwladol Gweithwyr Cymdeithasol yw ‘Ubuntu: Rydw i yn fi, am ein bod ni yn ni.' Term Zulu Affricanaidd yw ubuntu, sy'n golygu 'dynoliaeth', ac mae'n ddamcaniaeth sy'n fwy na 2,000 oed.

Mae 'rydw i yn fi, am ein bod ni yn ni' yn gysyniad sy'n cyd-fynd â moeseg gwaith cymdeithasol, ac yn atgyfnerthu'r pwysigrwydd o undod byd-eang a chyd-weithio, yn enwedig wrth i ni symud drwy'r cyfnod ansicr a heriol hwn.

Mae Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd yn amser pwysig i dimau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fyfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf, yn ogystal ag ystyried sut all gwaith cymdeithasol gynnig gobaith a hapusrwydd i drigolion a chymunedau yn y dyfodol.

Ymhlith y bobl sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf gan Covid-19 mae pobl gydag anghenion gofal a chefnogaeth. O ran pobl a chymunedau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae gwaith cymdeithasol wedi bod yn allweddol yn yr ymateb i'r pandemig byd-eang.

Mae gweithwyr cymdeithasol wedi gweithio'n ddiflino drwy gydol y pandemig, ac wedi gorfod defnyddio eu holl sgiliau proffesiynol a'u profiadau i gadw pobl ynghlwm â phopeth, a'u diogelu nhw. Maent wedi gweithio'n arloesol a chreadigol gyda phobl gydag anghenion gofal a chefnogi.

Mae Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd yn ein caniatáu ni i ganu clodydd ein timau gwaith cymdeithasol arbennig sydd wedi gweithio mor galed dros y 12 mis diwethaf. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gwerthfawrogi gwaith cymdeithasol fel gyrfa. Hoffwn ddiolch i staff unwaith eto am eu cyfraniad hanfodol wrth gefnogi plant, teuluoedd, oedolion bregus a'u gofalwyr o fewn ein cymunedau.

Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, y Cynghorydd Nicole Burnett

Am ragor o wybodaeth am Ddiwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd, ewch i wefan Ffederasiwn Rhyngwladol Gweithwyr Cymdeithasol.

Chwilio A i Y