Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn datgelu rhagor o gyfleoedd posibl ar gyfer Porthcawl yn y dyfodol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhyddhau argraffiadau arlunydd i ddangos sut allai gwesty sba moethus newydd edrych ar lannau Porthcawl.

Mae’r gwesty yn un o sawl cyfle posibl mae’r cyngor yn ei rannu, fel rhan o ymgynghoriad a drefnwyd yn unol â Siarter Creu Lleoedd Cymru, sy’n ceisio cael sefydliadau, busnesau a chymunedau i gydweithio er mwyn cyflwyno datblygiadau effeithiol a chynaliadwy.

Yn dilyn dwy sesiwn gyhoeddus boblogaidd a gynhaliwyd yn gynharach yr wythnos hon ym Mhafiliwn y Grand, mae byrddau arddangos yn cael eu codi yn y Cosy Corner i ddangos sut mae’r cyngor yn bwriadu gwneud gwelliannau. Mae hyn yn cynnwys meysydd parcio aml-lawr yn Hilsboro Place, tirlunio a chreu ardaloedd i gerddwyr ar hyd Promenâd y Dwyrain, gwell trafnidiaeth gyhoeddus a thrafnidiaeth Metro, estyniad ac adnewyddiad Dock Street a chreu marchnadfaoedd ac ardaloedd cymunedol newydd.

Bydd gwesty sba moethus yn cefnogi cynlluniau uchelgeisiol i gyflwyno mwy o gyfleusterau hamdden yn y dref, yn ogystal â bodloni anghenion a drafodwyd ym mlaenorol i gael mwy o leoedd aros o safon uchel ym Mhorthcawl. Yn ei dro, byddai hyn yn helpu i ddenu rhagor o ddigwyddiadau mawr yn ychwanegol at Ŵyl Elvis a’r twrnamaint golff Agored Hŷn.

Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio: Bydd y byrddau arddangos a’r argraffiadau arlunydd ar gael ar wefan y cyngor yn ogystal ag ar hysbysfyrddau yn y Cosy Corner am dair wythnos.

“Mae digon o amser i daro golwg arnynt ac anfon eich safbwyntiau ysgrifenedig ar y cynigion. Defnyddir yr holl adborth a dderbynnir i gynllunio strategaeth creu lleoedd drafft, a gobeithir ei chyhoeddi yn y flwyddyn newydd.

Mae ein hymgynghoriad creu lleoedd wedi cael ei ddatblygu yn unol â’r fframwaith defnyddio tîr cyfredol ar gyfer yr ardal a’r Cynllun Datblygu Lleol er mwyn sicrhau bod y cyfleoedd posibl hyn a’u cwmpas yn gynaliadwy, cyraeddadwy ac ymarferol yn economaidd.

“Roedd y sesiynau galw heibio’n boblogaidd iawn, ond rwy’n gobeithio y bydd trigolion a busnesau nad oed yn gallu bod yn bresennol yn taro golwg ar y manylion gan ddefnyddio’r dulliau amgen rydym yn eu cynnig, ac yn parhau i rannu eu hadborth â ni.

“Bydd y byrddau arddangos ar gael yn y Cosy Corner o ddydd Llun 29 Tachwedd ymlaen, ond gallwch weld y cynigion creu lleoedd a’r byrddau hyn ar-lein ar y dudalen adfywio ar wefan y cyngor. Gallwch anfon eich adborth at porthcawlplacemaking@bridgend.gov.uk.”

Argraffiadau arlunydd yn dangos sut allai gwesty sba moethus newyd edrych ar lannau Porthcawl.
Argraffiadau arlunydd yn dangos sut allai gwesty sba moethus newyd edrych ar lannau Porthcawl.

Chwilio A i Y