Cyngor yn datgelu cynlluniau i ddatblygu ysgol newydd gwerth £12.6m ar dir ym Mracla
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 21 Ionawr 2022
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi datgelu cynlluniau i ddarparu adeilad newydd, mwy, o’r radd flaenaf gwerth £12.6m ar dir oddi ar Ffordd Cadfan ym Mracla.
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion ar ôl caffael safle tir llwyd gwag o fewn y dalgylch lleol sy’n cefnu ar ystâd ddiwydiannol Bracla.
Daw’r cyhoeddiad bron i flwyddyn ar ôl i’r awdurdod gadarnhau nad oedd bellach yn ceisio adeiladu’r adeilad ysgol cyfrwng Cymraeg newydd ar safle 14 erw sy’n cael ei adnabod yn lleol fel Bryn Bracla.
O dan y cynllun, bydd y safle gwag ar Ffordd Cadfan yn cael ei ddefnyddio i ddarparu adeilad mwy, mwy modern, meithrinfa newydd ar gyfer 90 o blant a chyfleuster arsylwi ac asesu cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer Ysgol Gymraeg Bro Ogwr.
Flwyddyn yn ôl, pan wnaethom ddiystyru cynllun ar gyfer adeiladu’r ysgol newydd ar dir Bryn Bracla, gwnaethom ddatgan ein bod yn parhau i fod yn llwyr ymrwymedig i ddarparu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg cwbl newydd ar gyfer cymuned Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Yn ogystal â darparu adeilad modern newydd ar gyfer Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yn agos at safle’r ysgol bresennol, gwnaethom hefyd ddweud y byddem yn archwilio sut y gellid defnyddio safle Bro Ogwr er mwyn sefydlu ysgol newydd sbon cyfrwng Saesneg hefyd. Mae penderfyniad heddiw yn dangos ein bod yn cyflawni'r addewid hwnnw fel rhan o’n rhaglen moderneiddio ysgolion barhaus, a’n bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu’r cyfleusterau addysgol gorau posibl ar gyfer plant lleol. Rydym eisiau i ddisgyblion Ysgol Gymraeg Bro Ogwr elwa o gyfleusterau dysgu modern ac amgylchedd addysgiadol. Trwy gynyddu maint yr ysgol, gallwn hefyd hwyluso ehangiad sylweddol ar gyfer plant sy’n dymuno elwa o addysg cyfrwng Cymraeg o fewn y fwrdeistref sirol a chefnogi twf ehangach yr iaith Gymraeg.
Mae gwaith bellach ar y gweill i drefnu ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y cynlluniau hyn, a gobeithiaf y bydd cymaint o bobl â phosibl yn cymryd rhan - cadwch lygad am fwy o fanylion ynglŷn â sut gallwch wneud hyn yn fuan iawn.
Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio