Cyngor yn cyhoeddi rhybudd am wasanaethau wrth i ysgolion gau ac achosion gynyddu
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 16 Rhagfyr 2020
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn rhybuddio y gallai gwasanaethau hanfodol megis gofal cymdeithasol, ysgolion, graeanu ffyrdd a chasglu gwastraff fod mewn perygl os bydd achosion lleol o'r coronafeirws yn parhau i gynyddu.
Ymhlith pryderon y gallai gwasanaethau iechyd gael eu llethu hefyd, yn ddiweddar cyhoeddwyd mai'r fwrdeistref sirol yw'r ardal sydd yn drydydd yng Nghymru o ran y nifer uchaf o achosion positif o Covid-19 gyda chyfradd heintio o 698.4 o achosion fesul 100,000.
Mae'r nifer uchel o staff ysgolion sy'n hunanynysu neu'n sâl gyda'r coronafeirws eisoes wedi gorfodi un ysgol uwchradd, ysgol anghenion arbennig a chwe ysgol gynradd i gau yn gynharach na'r disgwyl.
Bellach mae'r cyngor yn rhybuddio y gallai gwasanaethau eraill gael eu heffeithio os bydd staff yn cael eu taro'n wael neu'n gorfod hunanynysu o ganlyniad i ddod i gysylltiad â rhywun sydd wedi profi'n bositif am y coronafeirws.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David: "Mae'r gyfradd heintio newydd ar gyfer y fwrdeistref sirol yn cynrychioli cynnydd sylweddol mewn cwta bythefnos ac mae'n llawer uwch na'r hyn y gellid ei ragweld. Os bydd yn parhau, bydd yn arwain yn anochel at ragor o darfu ar wasanaethau.
"Mae Ysgol Gyfun Cynffig, Ysgol Anghenion Arbennig Heronsbridge ac ysgolion cynradd Porthcawl, Croesty, Tynyrheol, Llangrallo, Nantyffyllon a Santes Fair a Sant Padrig i gyd wedi gorfod cau o ganlyniad uniongyrchol i staff yn cael eu heffeithio gan y coronafeirws a gallai rhagor ddilyn.
"Mae staff y cyngor eisoes yn gweithio'n ddiflino i ddarparu gwasanaethau hanfodol mewn amgylchiadau anodd, ond gallai unrhyw leihad arall yn ein gweithlu gael effaith fawr ar ein gallu i wneud hynny.
"Os bydd hyn yn digwydd, gallem gael ein gorfodi i ddechrau ystyried pethau fel dogni mathau penodol o ofal cymdeithasol neu drin rhai ffyrdd yn unig o fewn y rhwydwaith priffyrdd.
"Os bydd achosion o Covid-19 yn parhau, efallai y bydd yn rhaid i ni roi terfyn ar ymweliadau â chartrefi gofal er mwyn amddiffyn y staff a sicrhau eu bod yn gallu parhau i gefnogi preswylwyr a gofalu amdanynt.
"Gwn fod cydweithwyr yn y sector iechyd hefyd yn profi pryderon tebyg. Mae dau o fyrddau iechyd Cymru eisoes wedi cael eu gorfodi i ohirio gofal nad yw'n frys hyd nes y clywir yn wahanol, tra mae Prif Weinidog Cymru wedi cadarnhau y gall cyfnod clo cenedlaethol arall fod yn angenrheidiol.
"Ar ddiwedd y dydd, mae yn nwylo'r preswylwyr i benderfynu beth fydd yn digwydd nesaf, ac a fydd hi'n angenrheidiol i fesurau llym o'r fath gael eu gweithredu yn lleol ai peidio.
"Mae angen i bawb chwarae eu rhan, meddwl am oblygiadau posib eu gweithredoedd, a dilyn y rheolau ynglŷn â gwisgo gorchudd wyneb, cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo, a dilyn y canllawiau.
"Rydym i gyd yn hyn gyda'n gilydd, felly gweithredwch nawr i amddiffyn eich ffrindiau, teulu, cymdogion a chi'ch hunan."
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r ffyrdd y gallwch gael prawf am Covid-19, ffoniwch 119 neu ewch i'r dudalen coronafeirws ar wefan Llywodraeth Cymru.