Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn cyhoeddi adroddiad hunanasesu newydd ar ei berfformiad yn 2021-22

Mae adroddiad hunanasesu newydd ar sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi perfformio dros y flwyddyn ddiwethaf wedi'i gymeradwyo gan y Cyngor.

Wedi’i ddylunio i gyflwyno gwerthusiad realistig a chynhwysfawr o sut mae’r awdurdod lleol wedi gweithredu dros y 12 mis diwethaf, mae’r adroddiad wedi nodi beth sydd wedi gweithio’n dda, meysydd lle gellir gwneud gwelliannau a’r angen am newidiadau posib er mwyn sicrhau y gall gwasanaethau’r cyngor barhau i ddarparu’r manteision mwyaf i drigolion lleol.

Fel yr hunanasesiad cyntaf i gael ei lunio fel rhan o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, mae'r adroddiad yn cwmpasu'r cyfnod rhwng Ebrill 2021 - Mawrth 2022.

Mae’r adroddiad hunanasesu yn drylwyr iawn ac mae’n cyflwyno gwerthusiad gonest o sut mae gwaith y cyngor dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf wedi bod yn seiliedig ar lywodraethu effeithiol a defnydd effeithlon ac economaidd o’r holl adnoddau sydd ar gael.

Mae hefyd yn amlinellu sut mae’r cyngor wedi cyflawni yn erbyn yr amcanion a’r mesurau llesiant sydd wedi’u cynnwys yn ein cynlluniau Gwella Corfforaethol a Chydraddoldeb Strategol. Boed hynny y pandemig coronafeirws parhaus, ymadawiad y DU o’r UE, effaith y rhyfel yn Wcráin, etholiadau llywodraeth leol neu’r argyfwng costau byw, nid oes amheuaeth ein bod ni wedi wynebu nifer o heriau sylweddol wrth geisio darparu’r gwasanaethau gorau posibl.

Ymhlith y camau gweithredu a nodwyd ac y byddwn ni’n ceisio eu cyflawni dros y flwyddyn nesaf mae gwella lefelau presenoldeb mewn ysgolion yn dilyn y pandemig, mynd i’r afael â’r problemau gyda’r gweithlu gofal cymdeithasol, datblygu ac ymgynghori ar strwythur digartrefedd newydd, datblygu opsiynau newydd ar gyfer ein gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn y dyfodol, adolygu ein strwythur rheoli a sefydlu cynllun corfforaethol newydd wrth barhau i ddatblygu ein dull newydd ar sut y bydd gwasanaethau’n cael eu darparu yn y dyfodol. Mae cynnal yr hunanasesiad hwn yn ein galluogi i bwyso a mesur yr hyn rydym ni wedi’i gyflawni, a’r hyn rydym ni angen ei wneud nesaf er mwyn cyflawni gwelliannau pellach sy’n cefnogi pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Arweinydd y Cyngor, Huw David

Chwilio A i Y