Cyngor yn cyflwyno cynllun disgownt am dalu dirwyon yn gynnar
Poster information
Posted on: Dydd Iau 28 Tachwedd 2019
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi diweddaru ac ehangu ei bolisi gorfodi amgylcheddol yn sgil canlyniad ymgynghoriad cyhoeddus diweddar.
Mae'r newidiadau yn cynnwys cyflwyno cynllun disgownt newydd i annog talu dirwyon sefydlog yn gynnar ar draws amrywiaeth o droseddau amgylcheddol, ac ychwanegu dyletswydd gofal dros wastraff cartref.
O dan y cynllun newydd, bydd hawl gan bobl sy’n talu dirwyon sefydlog yn gynnar gael y disgowntiau canlynol:
Trosedd: |
Dirwy: |
Taliad Cynnar: |
---|---|---|
Taflu sbwriel |
£100 |
£75 |
Cynwysyddion gwastraff |
£100 |
£75 |
Graffiti a gosod posteri’n anghyfreithlon |
£100 |
£75 |
Tipio anghyfreithlon |
£200 |
£120 |
Methu â chydymffurfio â Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus |
£100 |
n/a |
Methu â chynhyrchu Trwydded Cludwyr Gwastraff |
£300 |
£180 |
Methu â chynhyrchu Nodyn Trosglwyddo Gwastraff |
£300 |
£180 |
Dosbarthu llenyddiaeth heb ganiatâd ar dir dynodedig |
£100 |
£75 |
Methu â chydymffurfio â'r ddyletswydd gofal o ran gwastraff cartref |
£300 |
£159 |
Bwriad y newidiadau hyn yw sicrhau bod ein polisi gorfodi yn parhau’n gydnaws ag arferion gorau modern, a byddan nhw’n helpu i annog pobl sy'n cyflawni troseddau amgylcheddol i dalu'n gyflym ac yn brydlon.
Mae pryderon ynglŷn â sbwriel a baeddu cŵn yn ddau o'r problemau sy’n cael eu codi amlaf y mae'n rhaid i'r cyngor ddelio â nhw, ac mae'r polisi gorfodi newydd wedi'i gynllunio i helpu i fynd i'r afael â hyn yn fwy effeithiol.
Dirprwy Arweinydd Hywel Williams