Cyngor yn croesawu taliad o £500 i staff y GIG a gofal cymdeithasol
Poster information
Posted on: Dydd Iau 18 Mawrth 2021
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi croesawu'r newyddion y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi taliadau bonws i staff y GIG a gofal cymdeithasol i nodi eu cyfraniadau rheng flaen yn ystod pandemig Covid-19.
Bydd pob aelod o staff yn derbyn taliad untro o £735 y pen a fydd, ar ôl cyfrif am gyfraniadau treth ac yswiriant gwladol, yn rhoi bonws llawn o £500 iddynt.
Wrth gyhoeddi'r taliad, dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae GIG Cymru a staff gofal cymdeithasol wedi dangos cryn dipyn o ymrwymiad a dewrder o achosion cychwynnol y pandemig hyd at yr ail don bresennol.
"Byddant wedi dioddef effeithiau'r pandemig ar eu llesiant corfforol ac iechyd meddwl yn eu bywydau personol a phroffesiynol. Mae'r taliad hwn yn mynegi ein diolch i'n GIG a'n gweithlu gofal cymdeithasol am eu cyfraniad eithriadol o ran cadw Cymru'n ddiogel."
Bydd y bonws hwn o fudd i bron i 222,000 o bobl yng Nghymru gan gynnwys mwy na 103,600 o staff gofal cymdeithasol, 90,000 o staff GIG Cymru, 2,300 o fyfyrwyr a oedd yn cael eu defnyddio a 26,000 o staff gofal sylfaenol.
Mae'n dilyn taliad arbennig o £500 i weithwyr cartrefi gofal a gofal cartref a gyhoeddwyd fis Mai diwethaf i gydnabod gwaith a wnaed yn ystod ton gyntaf y pandemig, ac mae'n siŵr o gael ei groesawu’n fawr gan staff sydd wedi bod ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn y pandemig ers y diwrnod cyntaf.
Mae cynghorau ac undebau llafur yn aros am wybodaeth am sut y bydd y cynllun yn cael ei gyflawni, felly cadwch lygad am fwy o fanylion yn fuan.
Arweinydd y Cyngor, Huw David