Cyngor yn croesawu cyllid newydd fydd yn helpu busnesau bach i dyfu
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 24 Tachwedd 2021
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyhoeddiad ynghylch pecyn gwerth £45 miliwn fydd yn helpu busnesau bach i dyfu a chefnogi pobl i hyfforddi i weithio mewn sectorau allweddol, ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol wedi ei groesawu’n fawr.
Yr wythnos hon, cyhoeddodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, fod y pecyn yn cynnwys £35 miliwn i helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru i ail ddechrau, datblygu, datgarboneiddio a thyfu er mwyn gyrru adferiad economi Cymru.
Bwriad y cyllid yw cefnogi mwy na 1,000 o fusnesau, helpu i greu 2,000 o swyddi newydd a diogelu 4,000 o swyddi ychwanegol.
Bydd awdurdodau lleol yn gweinyddu’r gronfa, a rhyddheir rhagor o fanylion ynghylch y broses ymgeisio ar ôl i Lywodraeth Cymru ddarparu canllawiau a gwybodaeth bellach.
Gwahoddir busnes i ddod o hyd i ffyrdd y gall buddsoddiad eu helpu nhw i ail ddechrau eu busnes, ei ddatblygu mewn ffyrdd arloesol newydd a chreu swyddi newydd, fel rhan o’r broses ymgeisio ar gyfer y grant.
Mae elfen o’r cyllid yn canolbwyntio ar gefnogi busnesau i ymdrin â materion megis bylchau o ran sgiliau mewn rhai sectorau, uwchsgilio’r gweithlu presennol, sicrhau bod gweithwyr yn cael gwaith teg a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd - bydd Gweinidogion yn chwilio am geisiadau fydd yn helpu Cymru i fodloni ei tharged cyfreithiol rhwymol i greu allyriadau carbon Sero Net erbyn 2050.
Disgwylir i fusnesau ddarparu arian cyfatebol ar gyfer unrhyw grantiau sy’n cael eu cynnig gan Lywodraeth Cymru.
Mae £10 miliwn pellach yn cael ei ddosbarthu er mwyn rhoi hwb i Gyfrifon Dysgu Personol Cymru, fydd yn galluogi colegau addysg bellach i gynnig rhagor o gyrsiau a chymwysterau fydd yn helpu 2,000 o bobl i fanteisio ar amrywiaeth ehangach o gyfleoedd gyrfaol a chyflogaeth mewn sectorau blaenoriaeth sy’n wynebu bylchau yn y gweithlu.
Bydd cyllid yn cael ei dargedu’n benodol at ail-ymgysylltu ac ail-hyfforddi staff i fynd yn ôl i weithio yn y GIG ac ym maes gofal cymdeithasol, hyfforddi mwy o yrwyr lorïau Cerbydau Nwyddau Trwm (HGV), ailsgilio unigolion i ymateb i gyfleoedd gwaith newydd mewn adeiladu gwyrdd ac ynni adnewyddadwy, a sicrhau bod mwy o gogyddion, staff gweini a blaen tŷ hyfforddedig ar gael i weithio yn sector lletygarwch Cymru.
Dywedodd Mr Gething: “Bydd y cyllid yn rhoi cyfle i fusnesau sydd angen ail-fuddsoddi i wneud hynny, er mwyn ail ddechrau, datblygu a thyfu - yn enwedig ar ôl effaith pandemig y coronafeirws, ein hymadawiad o’r UE, a chyda olwg ar ddiogelu'r hinsawdd a rhag Covid.
Dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg: “Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn gyfle i bobl feithrin y sgiliau, y wybodaeth a’r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i wneud cynnydd o fewn eu gyrfa. Bydd hyn yn rhoi cyfleoedd i bobl ail-hyfforddi a gwella eu potensial o ennill cyflog uwch mewn meysydd o’r economi y gwyddom sydd dan bwysau sylweddol.”
Bydd y cyllid hwn yn helpu i wella gwytnwch ymhlith busnesau bach a chanolig, cyfoethogi cyfleoedd a diogelu swyddi mewn cyfnod heriol.
Edrychwn ymlaen at gael canllawiau a gwybodaeth bellach gan Lywodraeth Cymru ynghylch y broses ymgeisio, a byddwn yn cyhoeddi’r manylion ynghylch sut all busnesau wneud ceisiadau cyn gynted â phosibl.
I groesawu’r cyllid newydd, dywedodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David