Cyngor yn ceisio ceisiadau am safle datblygu siop fwyd Porthcawl
Poster information
Posted on: Dydd Iau 29 Hydref 2020
Ar hyn o bryd mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ceisio ceisiadau gan bartïon â diddordeb i brynu safle siop fwyd dwy erw ym Mhorthcawl.
Mae'r safle, sy'n cael ei adnabod yn lleol fel The Green, yn ffurfio rhan o safle adfywio Salt Lake sydd wedi'i glustnodi ar gyfer datblygiad preswyl, hamdden, manwerthu a masnachol yn ogystal â gofod agored, parcio ceir a llwybrau teithio egnïol.
Y dyddiau cau ar gyfer pob cais ffurfiol yw hanner dydd ar 2 Rhagfyr.
Dywedodd Charles Smith, aelod cabinet y cyngor dros adfywio: “Mae diddordeb mawr wedi bod yn y safle hyd yma a rhagdybir y bydd ceisiadau niferus yn cael eu cyflwyno ar gyfer ystyriaeth.
Un o ofynion allweddol pob cais yw'r angen i ddangos cydymffurfiad â'r briff datblygu cynllun sy'n amlinellu mai pwrpas y safle yw darparu adeilad porth wrth fynedfa'r dref sydd o safon uchel ac wedi'i ddylunio'n bwrpasol.
Bydd y datblygiad yn rhyddhau cronfeydd fydd yn cael eu buddsoddi eilwaith i welliannau seilwaith a chamau pellach y cynlluniau adfywio, gan gynnwys gwaith i uwchraddio a gwella Maes Parcio Hillsboro gerllaw, datblygiad tai ger y siop newydd, cynllun hamdden, gwesty a thai pellach ar lan y môr."
Bydd amodau cynllunio yn sicrhau bod cysylltiadau clir a mynediad i gerddwyr rhwng safle'r siop fwyd a John Street.
Disgwylir i aelodau cabinet y cyngor wneud penderfyniad terfynol yn fuan yn 2021 ynghylch pa storfa fydd yn cael ei datblygu ar y safle. Mae'n cael ei farchnata gan EJ Hales.