Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn cefnogi ymgyrch i annog mwy o ofalwyr maeth LGBT+

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr unwaith eto’n cefnogi Wythnos Maethu a Mabwysiadu LGBT+ 2021 drwy annog aelodau o'r gymuned leol sy'n adnabod eu hunain fel lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol ac ymadroddion rhywedd eraill (LGBT+) i ystyried mabwysiadu neu faethu plant yn y fwrdeistref sirol.

Mae Wythnos Maethu a Mabwysiadu LGBT+ 2021 yn dechrau heddiw, dydd Llun 1 Mawrth tan ddydd Sul 7 Mawrth.

Mae'r ymgyrch, dan arweiniad yr elusen o’r DU, New Family Social, yn gweithio gyda thimau mabwysiadu a maethu a phobl LGBT+ sydd â diddordeb archwilio’r llwybrau hyn at fod yn rieni.

Mae'r elusen wedi dweud bod gwir angen o hyd am fwy o bobl LGBT+ i fabwysiadu a maethu ledled Cymru. Yng Nghymru yn 2021, mae tua 80,000 o blant bregus mewn gofal. Mae rhai pobl LGBT+ yn credu y bydd eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth o ran rhywedd yn eu hatal rhag mabwysiadu neu faethu.

Nod thema eleni, ‘Adeiladu eich teulu’ yw mynd i'r afael â rhai o'r mythau sy'n ymwneud â mabwysiadu a maethu ar gyfer pobl LHDT+ ac mae wedi ymrwymo i esbonio gwahanol rannau’r broses asesu a chymeradwyo.

Un cwpl sydd wedi dechrau eu taith faethu gyda Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar yw Laura Evans a Nikki Blackman.

Mae Laura a Nikki yn athrawon ysgol gynradd a gwnaethant gyfarfod yn 2014 pan oeddent yn gweithio gyda'i gilydd yn yr un ysgol. Blodeuodd eu perthynas a blwyddyn yn ddiweddarach prynon nhw eu cartref cyntaf ac yna dechreuon nhw archwilio gwahanol opsiynau ynglŷn â phlant.

Dywedodd Laura: “Gwnaethom benderfynu mai maethu fyddai’r dewis gorau i ni, gan nad oes modd inni gael plentyn sy’n perthyn yn enetig i’r ddwy ohonom, beth am ofalu am blant sydd mewn angen?

"Aeth y broses ymgeisio'n ddidrafferth iawn," meddai Nikki.

“Yn anffodus, dechreuodd y pandemig yn fuan ar ôl inni ddechrau’r broses, felly dim ond unwaith y gwnaethom ni gyfarfod ein gweithiwr cymdeithasol wyneb yn wyneb. Ond mae ein perthynas yn dal i fod yn gryf, ac rydym wedi addasu i ddefnyddio dulliau digidol o gyfathrebu a hyfforddi.

“Mae’r cymorth gan Ofal Maethu Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn wych ac mae ein gweithiwr cymdeithasol y parhau i fod gyda ni heddiw. Mae hi wedi bod yn hynod gefnogol drwy gydol y broses ac wedi ein harwain drwy’r asesiad. Rydym hefyd yn derbyn hyfforddiant parhaus fel ein bod yn medru datblygu’n broffesiynol fel gofalwyr maeth.”

Pan ofynnwyd pam eu bod wedi penderfynu maethu, dywedodd y cwpl: “I wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn. Nid oes gan rai pobl eu plant eu hunain ond maent yn teimlo bod ganddynt amser, amynedd, cynhesrwydd a chariad i'w rhoi i berson ifanc nad yw’n medru byw gyda'i deulu ei hun."

Gyda llawer o blant yn y fwrdeistref sirol angen cartref sefydlog a chariadus, mae'r cyngor yn awyddus i annog gofalwyr maeth a mabwysiadwyr LGBT+ posibl eraill i ddod ymlaen.

Nid oes angen i chi fod yn briod nac mewn perthynas i faethu, ac nid yw eich cyfeiriadedd rhywiol yn gwneud gwahaniaeth i fod yn ofalwr maeth ychwaith. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw amynedd, dealltwriaeth ac ymrwymiad gwirioneddol i helpu person ifanc ar adeg anodd yn ei fywyd.

Mantais bod yn rhan o Ofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr yw eich bod yn cadw plant lleol yn y fwrdeistref sirol, yn agos at eu hysgol a'u ffrindiau. Os ydych chi'n credu y gallwch gynnig amgylchedd diogel a chariadus i blentyn – yna rydym yn eich annog i gysylltu â ni a dechrau ar eich taith faethu.

Dywedodd Aelod Cabinet y cyngor dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, y Cynghorydd Nicole Burnett

Mae Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr a Gwasanaeth Mabwysiadu Western Bay yn darparu gwybodaeth helaeth am bwy all fabwysiadu a maethu yn ogystal ag esbonio mwy am broses asesu a chymeradwyo mabwysiadu a maethu yn y fwrdeistref sirol.

Ar gyfer darpar fabwysiadwyr a gofalwyr maeth, ychydig iawn o gyfyngiadau sydd, rhaid i chi fod dros 21 oed, fod ag ystafell sbâr yn eich cartref, peidio â chael unrhyw rybuddion na chollfarnau yn erbyn plant a bod ag ymrwymiad i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel.

Am ragor o wybodaeth ynghylch maethu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, cysylltwch â Gofal Maethu Pen-y-bont ar Ogwr ar 01656 642674.

Am ymholiadau mabwysiadu, cysylltwch â Gwasanaeth Mabwysiadu Western Bay ar 0300 365 2222.

Gofalwyr maeth lleol, Laura a Nikki

Chwilio A i Y