Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn cefnogi ymgyrch Awtistiaeth Cymru

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi ymgyrch sy'n ceisio trawsnewid dealltwriaeth y cyhoedd am awtistiaeth, a mynd i'r afael â materion y mae nifer o bobl gydag awtistiaeth yn eu hwynebu.

Mae ymgyrch ‘Can You See Me?’ wedi ei ail-lansio gan Awtistiaeth Cymru, ac mae'n rhedeg tan ddiwedd Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd (29 Mawrth - 4 Ebrill). Bydd yn darparu adnoddau, hyfforddiant a chyngor i gefnogi’r dymuniad y gall pobl awtistig gael eu cydnabod.

Mae unigolion, cyflogwyr a sefydliadau ledled Cymru yn cael eu hannog i wneud addewid i gwblhau'r Cynllun Ardystio Ymwybyddiaeth Awtistiaeth i helpu i newid y ffordd mae pobl yn ymdrin ag awtistiaeth, creu Cymru sy'n gweithio i bawb awtistig a chwalu'r rhwystrau sy'n atal pobl awtistig rhag bod yn rhan lawn o gymdeithas.

Po fwyaf o bobl sy'n siarad am awtistiaeth, y mwyaf y byddwn yn ysbrydoli sefydliadau ledled Cymru i fod yn fwy ymwybodol.

Er bod y 12 mis diwethaf wedi bod yn anodd i unrhyw un sy’n chwilio am swydd, mae bod yn awtistig yn ychwanegu mwy o heriau, felly mae’n bwysig i ni gofio am y newidiadau syml y gallwn eu gwneud i fod yn Ymwybodol o Awtistiaeth. Cyn y coronafeirws, awtistiaeth oedd â'r cyfraddau cyflogaeth isaf o'r holl grwpiau anabledd ym Mhrydain, sef 15% yn unig.

Byddwn yn annog busnesau a sefydliadau i gymryd rhan yn y Cynllun Ardystio Ymwybyddiaeth Awtistiaeth, fydd yn eu hannog i feddwl yn wahanol am sut maen nhw'n rhedeg eu busnesau a'r hyn y gallant ei wneud i helpu i sicrhau bod pobl â chyflwr niwroddatblygiadol yn cael eu trin yn gyfartal ac yn deg.

Cynghorydd Dhanisha Patel, aelod cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Lesiant a Chenedlaethau'r dyfodol

I gael mwy o wybodaeth am yr ymgyrch, a gwylio'r ffilm atodol, ewch i wefan Awtistiaeth Cymru.

Mae Western Bay yn rhedeg Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig i gefnogi pobl gydag awtistiaeth ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â Chastell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Am ragor o wybodaeth am y gwasanaeth a gynigir, ewch i wefan Western Bay.

Chwilio A i Y