Cyngor yn cadarnhau is-etholiad wrth i ymgeisydd ddewis peidio ag ymgymryd â’i swyddogaeth fel aelod
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 11 Mai 2022
Mae un o’r tri ymgeisydd llwyddiannus a safodd yn yr etholiad llywodraeth leol 2022 diweddar ar gyfer ward Canol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau na fydd yn ymgymryd â’i swyddogaeth newydd fel cynghorydd bwrdeistref lleol.
Cadarnhaodd Stuart Baldwin wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Pan-y-bont ar Ogwr nad yw bellach yn bwriadu gweithredu fel aelod etholedig, a’i fod yn rhoi’r gorau i wleidyddiaeth leol.
Golyga hyn y bydd rhaid cynnal is-etholiad newydd ar gyfer y sedd wag yn ward Canol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wrthi’n ceisio cyngor ar yr amseriad ar gyfer is-etholiad, a byddant yn rhannu rhagor o wybodaeth cyn gynted ag y bo modd.
Mae rhagor o wybodaeth am yr etholiadau llywodraeth leol ar gael ar dudalennau etholiad www.bridgend.gov.uk