Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn arwyddo cytundeb partneriaeth â Marubeni ar gyfer prosiect ynni hydrogen dosbarth 5MW

Arwyddodd Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr femorandwm cyd-ddealltwriaeth â Marubeni yr arbenigwyr ynni gwyrdd o Japan gan nodi sut mae’r ddau sefydliad yn bwriadu cydweithio er mwyn archwilio a datblygu menter ynni hydrogen dosbarth 5MW newydd.

Arwyddwyd y cytundeb wedi i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gael ei dewis gan Marubeni yn dilyn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru fel y lleoliad delfrydol yn y DU i gynnal prosiect arddangosydd hydrogen gwyrdd, sy’n ceisio creu safle a all gynhyrchu a chydbwyso’r cyflenwad a’r ffordd o storio ynni gwyrdd rhad.

O dan y cynigion, gallai’r prosiect fod yn arloesol drwy gynhyrchu tanwydd glân ar gyfer cerbydau fflyd yn amrywio o raeanwyr y cyngor i lorïau casglu gwastraff.

Gallai hefyd gael ei ymestyn i gynnwys cerbydau ymateb brys a ddefnyddir gan wasanaethau golau glas, a bydd yn ystyried sut allai ynni hydrogen, o bosib, gael ei ddefnyddio i gynhesu adeiladau a chyfleusterau megis ysgolion, cartrefi preswyl Gofal Ychwanegol, pyllau nofio lleol a mwy.

Mae’r cyllid ar gyfer y prosiect yn cael ei ystyried gan Marubeni, sy’n bwriadu cael ei wobrwyo gan Sefydliad Datblygiad Ynni Newydd a Thechnoleg Ddiwydiannol (NEDO) am raglen o’r enw ‘Prosiect Arddangosiad Rhyngwladol ar Dechnolegau Effeithlonrwydd Ynni Japan’.

Fel rhan o’r broses, cwblhaodd Marubeni astudiaeth ddichonoldeb dan y teitl ‘Prosiect arddangosiad o system rheoli sy’n cyfrannu at gyflenwad a galw ynni lleol gorau posib gan gynnwys trydan, gwres a hydrogen (DU)’ ym mis Mawrth 2022.

Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi ei ddatblygiad yn weithredol ac wrth i’r prosiect ddatblygu, mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ogystal wedi cytuno mewn egwyddor i ystyried y cyfle i fuddsoddi ymhellach.

Dywedodd Saturo Harada, Prif Swyddog a Phrif Swyddog Gweithredol ar gyfer Adran Bŵer Sefydliad Marubeni: “Hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad mwyaf i Lywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd am sefydlu perthynas waith mor gadarn â ni.

“Rwy’n gobeithio y gallwn, gyda’n gilydd gyflawni a chyflwyno carreg filltir arwyddocaol ar gyfer Cymru drwy’r prosiect.”

Dywedodd Julie James, Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd:  “Mae hwn yn brosiect cyffrous ac uchelgeisiol sydd â’r potensial i gyfrannu at ein huchelgeisiau sero net, ac rydym yn falch o fod yn dyst i’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwn rhwng Marubeni a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

“Mae effaith y cynnydd diweddar mewn costau ynni wedi amlygu’r pwysigrwydd o ddatblygu ffynonellau ynni cynhenid, glanach a gwyrddach.

“Mae mentrau fel y prosiect Arddangosydd Hydrogen yn bwysig ar gyfer darparu tystiolaeth o ynni glân ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac ar gyfer Cymru, ac rwy’n falch fod y cyngor yn gweithio ar hwn ochr yn ochr ag arbenigwr blaengar mewn ynni adnewyddadwy.”

Mae’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwn yn cydnabod yn swyddogol bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Marubeni yn gweithio mewn partneriaeth i archwilio’r cynlluniau newydd hynod uchelgeisiol hyn gyda’i gilydd.

Mae’r cynigion yn hynod gyffrous, a chanddynt y potensial nid yn unig i gyfrannu tuag at dargedau datgarboneiddio’r cyngor ei hun, ond hefyd i fodloni targedau cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyflawni sector gyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030 a sefydlu safleoedd cynhyrchu hydrogen adnewyddadwy fel rhan o’r agenda Sero Net Cymru.

Hoffwn ddiolch i Marubeni, Llywodraeth Japan a Llywodraeth Cymru am y buddsoddiad yn yr astudiaeth ddichonoldeb maent yn ei wneud i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac am eu hyder yn yr ardal fel lleoliad lle gall prosiect fel hwn ffynnu a datblygu er budd pawb.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd John Spanswick

Chwilio A i Y