Cyngor yn annog pobl i fod yn wyliadwrus o sgamiau twyll
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 23 Tachwedd 2021
Mae busnesau a thrigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus o sgamiau yn dilyn ymgais i ymosod ar awdurdod lleol a chymdeithas dai.
Llwyddodd Cyngor Rhondda Cynon Taf a’r gymdeithas dai, Cartrefi Cymru, i atal twyll mandad bancio gwerth £320,000 yr wythnos hon, ar ôl i amheuon gael eu gwneud ynghylch cyfeiriadau e-byst wedi’u haltro ac ymatebion oedd yn ramadegol wael.
I’r perwyl hwn, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus o sgamiau cyffelyb.
Yn gynharach eleni, cafodd busnes lleol ei dwyllo o werth £40,000 o nwyddau ar ôl i’r twyllwr greu archeb brynu enfawr dan enw’r awdurdod lleol. Ar ôl danfon yr eitemau, ni chafodd y cyflenwr daliad, a methodd â chael y cynnyrch oedd wedi’u hanfon allan, yn ôl.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn atgoffa busnesau fod pob e-bost gan yr awdurdod yn cael ei anfon o gyfeiriad e-bost ‘@bridgend.gov.uk’.
Os yw busnesau’n amau bod unrhyw gais am ddyfynbris neu archeb brynu ddilynol yn amheus, gallant gysylltu â procurementteam@bridgend.gov.uk i wirio hyn.
Mae busnesau hefyd yn cael eu rhybuddio i beidio â ffonio unrhyw rifau ffôn sy’n cael eu cynnwys o fewn e-byst twyll sy’n honni eu bod yn rhifau sy’n berthnasol i’r awdurdod lleol, gan y gallant gynnwys ffioedd gwasanaeth drud.
Rydym yn gofyn i bawb fod yn wyliadwrus o negeseuon twyllodrus ac i osgoi bod yn ddioddefwr sgamiau drwy ddilyn yr holl gamau hanfodol.
Cofiwch wirio fod y cyfeiriad e-bost neu rif ffôn yn ddilys, ac edrychwch am ramadeg gwael - dyma’r arwyddion arferol sy’n dangos mai twyllwr yw hwn, yn hytrach na’r unigolyn neu’r sefydliad maen nhw’n ei enwi.
Mae pob achos o weithgaredd twyllodrus hysbys sy’n cynnwys enw’r cyngor yn cael ei adrodd i Heddlu De Cymru ac Action Fraud. Os ydych wedi derbyn unrhyw e-byst amheus, rydym yn gofyn i chi eu hanfon ymlaen at uwch ymchwilydd twyll y cyngor, Simon Roberts ar Simon.Roberts@bridgend.gov.uk fel ein bod yn medru ychwanegu’r rhain at y ffeil dystiolaeth.
Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol
Am ragor o awgrymiadau ynghylch sut i adnabod e-byst ac archebion prynu twyllodrus, ewch i wefan y cyngor.