Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn arloesi wrth drosglwyddo i deleofal digidol mewn gofal cymdeithasol
Poster information
Posted on: Dydd Iau 28 Tachwedd 2024
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw’r awdurdod cyntaf yng Nghymru i gwblhau trosglwyddiad digidol llwyddiannus o’i alwadau larwm teleofal argyfwng, i sicrhau’r diogelwch gorau i lesiant eu cleientiaid.
Yn 2017, cyhoeddodd BT gynlluniau i ddiffodd eu rhwydwaith ffonau analog (PSTN) erbyn 2025 a sefydlu datrysiad digidol IP llawn yn ei le. Nid oedd yr hen rwydwaith yn addas at y diben mwyach ac roedd angen sicrhau bod y rhwydwaith ffonau yn cyd-fynd â gwledydd eraill fel Ffrainc, yr Almaen a Sweden er mwyn bodloni gofynion yn y dyfodol.
I baratoi ar gyfer y trosglwyddiad digidol ac mewn ymdrech i liniaru unrhyw effaith negyddol posib ar ei 2,500 o gleientiaid, gweithredodd y tîm Teleofal yn y cyngor, ynghyd â’u partneriaid dibynadwy Care and Repair a Galw Gofal, yn gyflym i sicrhau cyfnod pontio llwyddiannus.
Galluogodd penderfyniad y Cabinet i fuddsoddi mwy na £1 miliwn mewn rhaglen ‘Gofal a Theleofal sy’n cael ei wella gan Dechnoleg’ yr awdurdod i hwyluso trosglwyddiad didrafferth o analog i ddigidol, a chefnogi pobl agored i niwed i aros gartref a hyrwyddo annibyniaeth.
Wedi’i sefydlu gan dîm Gofal ac Atgyweirio Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, dechreuodd rhaniad yr offer digidol a grëwyd gan Legrand Care ym mis Ionawr 2023, gyda chwech o gleientiaid yn trosglwyddo’n llwyddiannus o analog. Erbyn mis Awst 2024, roedd swm syfrdanol o 2,380 o gleientiaid a 2,273 o unedau wed cael eu sefydlu’n llwyddiannus ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer y trosglwyddiad (mae 88 o gleientiaid yn weddill oherwydd ardaloedd signal gwael).
Mae'r trosglwyddiad i ddigidol wedi arwain at nifer o fuddion i gleientiaid, gan gynnwys safon dibynadwyedd galwadau gwell, monitro dyddiol a throsolwg amser real o statws dyfeisiadau,
oll yn cyfrannu tuag at gefnogi diogelwch yr unigolyn. Mae gan y dechnoleg wisgadwy botensial gwell i wneud defnydd o wahanol offer i gefnogi’r gwaith o fonitro ffordd o fyw i ragweld dirywiad mewn iechyd, gan alluogi ymyriadau cynharach. Yn ogystal, mae potensial gwell i uno gwaith teleiechyd a theleofal i unigolion. Mae llai o achosion o fethu galwadau a dderbynnir gan y ganolfan alwadau, Galw Gofal, sydd wedi’i lleoli yng Nghonwy, erbyn hyn, a gwelir bod namau yn cael eu hadnabod yn gynt.
Mae adborth cadarnhaol a dderbyniwyd gan ddefnyddwyr teleofal wedi dangos bod y gwasanaeth nawr yn fwy cynhwysol; mae mwy o gleientiaid yn gallu gwneud defnydd o deleofal gan nad oes angen llinell dir o gwbl, a gellir gosod yr uned yn unrhyw le yn eu tai. Mae safon y galwadau hefyd wedi gwella ac erbyn hyn maent yn gliriach wrth gysylltu â’r Ganolfan Derbyn Galwadau.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, Y Cynghorydd Jane Gebbie: “Mae cwblhad y trosglwyddiad digidol i’n cleientiaid teleofal yn garreg filltir allweddol i’r awdurdod, ac mae’n gwella dibynadwyedd ac effeithlonrwydd gwasanaethau teleofal, gan sicrhau bod trigolion bregus yn derbyn lefel o gefnogaeth sy’n fwy ymatebol ac yn gyflymach.
“Mae llwyddiant y trosglwyddiad hwn wedi darparu'r sylfaen hefyd i symud ymlaen gyda datblygiadau digidol i gefnogi ein gwasanaethau.
“Diolch i’n sefydliadau partner am eu cefnogaeth barhaus i ddarparu trosglwyddiad diogel a didrafferth bron i 3,000 o ddefnyddwyr gwasanaeth o analog i ddigidol.”
Dywedodd Angharad Evans, datblygwr Teleofal a TEC: “Rwy’n falch ein bod wedi gallu darparu’r dechnoleg hon i drigolion i sicrhau eu bod yn cael eu cadw’n ddiogel. Fel yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gyflawni'r cyfnewidiad llwyddiannus hwn i ddigidol, rydym yn dangos penderfynoldeb ac ymrwymiad i gyflawni gofal a alluogir gan dechnoleg yn y gymuned i helpu i wella bywydau.”
Am ragor o wybodaeth am y trosglwyddiad digidol ewch i: https://www.bridgend.gov.uk/residents/social-care-and-wellbeing/adult-social-care/bridgelink-telecare/