Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor Ieuenctid yn trafod bywyd o dan gyfyngiadau symud

Mae cynghorwyr ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr wedi cynnal rhith-gyfarfod â maer bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn trafod effaith y cyfyngiadau symud presennol ar bobl ifanc.

Gyda'r nod o roi llais i bobl ifanc ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a'u helpu i ddweud eu dweud ar faterion lleol, mae'r Cyngor Ieuenctid yn sefydliad sydd ar wahân i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Wedi'i sefydlu a'i gynnal gan bobl ifanc leol, gyda chymorth gan yr awdurdod lleol, mae ganddo faer, aelodau cabinet a nifer o gynghorwyr ieuenctid.

Yn ystod y cyfarfod ar-lein, roedd cynghorwyr ieuenctid yn gallu siarad am amrediad o faterion gyda'r Maer Stuart Baldwin, gan gynnwys materion mewn perthynas ag addysg, yr amgylchedd a sut olwg allai fod ar y gymdeithas unwaith y caiff y cyfyngiadau symud eu codi.

Rhannwyd pryderon ynghylch y graddau a ragwelir, yr effaith ar eu paratoadau ar gyfer y brifysgol, ac amlygwyd pwysigrwydd mynediad i dechnoleg ar gyfer pobl o bob oedran yn ystod y pandemig.

Er bod y pandemig wedi atal llawer o bobl ifanc rhag cymryd rhan yn eu gweithgareddau arferol, mae hefyd wedi rhoi cyfle i rai ddysgu a datblygu sgiliau newydd.

Dwi wedi bod yn dysgu llawer o gerddoriaeth ar y piano a'r gitâr, mae'r cadetiaid wedi bod yn cynnal rhith-gyfarfodydd ddwywaith yr wythnos, ac rydym wedi gallu cael bathodynnau a hyd yn oed cyflawni ein Gwobrau Dug Caeredin.

Cynghorydd ieuenctid Ewan Bodilly

Ychwanegodd Megan Lambert, y Maer Ieuenctid: “Mae llawer o blatfformau dysgu ar-lein wedi bod yn cynnig cyrsiau am ddim yn ystod y pandemig, rhai gan y Gynghrair Eiddew, gyda chyfle i ennill tystysgrifau am eu cwblhau.”

Mae gweithwyr cymorth ieuenctid wedi bod yn annog pobl ifanc i fynd i wefannau fel Ymddiriedolaeth y Tywysog a'r Brifysgol Agored er mwyn datblygu eu sgiliau yn ystod y cyfyngiadau symud.

Dywedodd Megan Stone, sy'n AS Ieuenctid y DU dros Ben-y-bont ar Ogwr, fod pandemig y coronafeirws wedi dangos i gymunedau faint mae pobl ifanc yn dibynnu ar ei gilydd, gan ychwanegu: “Mae'n bendant ei fod wedi dod â chymunedau at ei gilydd. Mae'r clap cenedlaethol ar gyfer gweithwyr allweddol wedi annog pobl i ddod allan a siarad â'u cymdogion, ac mae'n bendant wedi dod â phobl at ei gilydd.”

Cododd, Max Williams, Aelod y Cabinet Ieuenctid dros Addysg, bwyntiau pwysig ynghylch yr amgylchedd. “Mae'n bwysig sylweddoli na allwn fynd yn ôl i'r drefn arferol oherwydd dyna beth oedd y broblem,” dywedodd.

“Mae'r awyr cymaint yn gliriach ers i'r awyrennau roi'r gorau i hedfan, ac mae sôn y daw Llundain yn ddinas beicio fel Amsterdam. Mae'n rhaid i ni feddwl beth fydd y normal newydd.”

Cytunodd Maer Baldwin. “Byddai rhai yn dadlau nad oedd yr hyn a oedd gennym cyn y cyfyngiadau symud yn normal, ac efallai na ddylwn fynd yn ôl i hynny,” dywedodd.

“Dydw i ddim yn meddwl bod yr hyn a oedd gennym o'r blaen yn normal… Prynais i gar newydd fis Ionawr, a dwi wedi'i yrru tair gwaith yn unig. Mae'n dangos beth y gallwch wneud hebddo, felly gobeithio y byddwn ni'n symud tuag at ddiwylliant sy'n canolbwyntio’n fwy ar unigolion.

Mae'r cyngor ieuenctid wedi parhau i gynnal rhith-gyfarfodydd drwy gydol y pandemig, ac mae Cymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig amrediad wasanaethau ar-lein ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed.

Os ydych am gymryd rhan yng ngwaith Cyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, ewch i'w wefan  neu anfonwch e-bost at Lois.Sutton@bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y