Cyngor i ymgynghori ar gynlluniau ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg newydd
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 20 Ionawr 2021
Mae cynlluniau ar y gweill a allai ddarparu'r ysgolion newydd cyntaf i gael eu hadeiladu yn ardal Corneli mewn mwy na 40 mlynedd.
Rhoddwyd cymeradwyaeth i drefnu ymgynghoriad torfol dros gynigion i ddisodli ysgolion cynradd Corneli ac Afon y Felin sy'n heneiddio gydag ysgol cyfrwng Saesneg fodern newydd o'r radd flaenaf sy'n cynnwys system fynediad ddwy ffurf, meithrinfa 60 lle a chanolfan adnoddau 15 lle ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
O dan y cynigion, gellid sefydlu'r ysgol newydd ym Mhlas Morlais drwy ymrwymo i gytundeb â pherchennog presennol y safle, Tai Cymoedd i'r Arfordir, a chyfnewid y lleoliad ar gyfer tir a adawyd yn Afon y Felin.
Mae'r cynigion hefyd yn amlinellu sut y gallai'r ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg Ysgol Y Ferch o'r Sgêr ennill adeiladau cwbl newydd ac ehangu i’r safle presennol lle mae Ysgol Gynradd Corneli ar hyn o bryd i ddod yn ysgol fynediad ddwy ffurf gyda meithrinfa 60 lle cyfrwng Cymraeg.
Byddai'r Ganolfan Plant Integredig, sydd wedi'i lleoli ar safle Ysgol Gynradd Corneli ar hyn o bryd, yn parhau i fod ar waith, a byddai amwynderau cymunedol newydd, megis cyfleusterau chwaraeon awyr agored, ar gael.
Mae'r cynigion hyn yn amlinellu sut mae'r cyngor wedi ymrwymo i ddarparu cyfleusterau addysgol modern i blant sy'n byw yng ngorllewin Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a sicrhau y gallant elwa o'r amgylcheddau dysgu gorau posibl. Gan bod 63 mlynedd wedi bod ers i Ysgol Gynradd Corneli agor yn 1958, 44 mlynedd ers agor Afon y Felin ym 1977, a 39 mlynedd ers i Ysgol Y Ferch O'r Sgêr agor ym 1982, mae'r cynlluniau hefyd yn fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd i ddarparu'r eiddo ysgol newydd cyntaf i'r gymuned gael ei adeiladu o fewn yr ardal mewn bron i 40 mlynedd.
Y nod yma yw darparu ysgolion cwbl fodern i'r gymuned sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif, wedi'u hadeiladu i fanylebau llawn Llywodraeth Cymru ac wedi'u cynllunio i fod o fudd i ddisgyblion cyfrwng Cymraeg a Saesneg.
Rydym am i drigolion lleol chwarae rhan lawn a gweithgar yn y cynlluniau hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd cynifer o bobl â phosibl yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad sydd i ddod unwaith y bydd y manylion wedi'u cyhoeddi.
Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio