Cyngor i rieni a gofalwyr plant ysgol
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 13 Mawrth 2020
Gyda’r sefyllfa ynghylch coronafeirws yn datblygu yn gyflym, mae’r awdurdod lleol yn gweithio’n agos gydag ysgolion, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn gweithredu unrhyw fesurau angenrheidiol i warchod disgyblion, staff ac ymwelwyr rhag lledaeniad coronafeirws.
Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae ysgolion yn dilyn cyngor penodol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â rheoli coronafeirws mewn ysgolion.
Ar hyn o bryd rydym yn datblygu strategaeth i sicrhau bod cynlluniau ac adnoddau effeithiol yn eu lle i ymateb yn briodol i’r sefyllfa hon sy’n newid.
Er gwybodaeth, mae cyngor amrywiol ar gael i’r cyhoedd ar wefannau Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn perthynas â choronafeirws.
Hefyd, mae cyngor mwy penodol i rieni a gofalwyr ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae rhagor o gyngor cyffredinol am deithio i neu o’r DU ar gael ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO).
Y ffordd orau i atal yr haint yw drwy osgoi dod i gyswllt â’r feirws drwy hylendid da. Felly, cofiwch gynghori eich plentyn i olchi ei ddwylo:
- cyn gadael cartref
- wrth gyrraedd yr ysgol
- ar ôl defnyddio’r toiled
- cyn paratoi bwyd
- ar ôl amser egwyl a gweithgareddau chwaraeon
- cyn bwyta unrhyw fwyd, gan gynnwys byrbrydau
- cyn gadael yr ysgol ac
- ar ôl dychwelyd adref o’r ysgol.
Hefyd, dylech gynghori eich plentyn ynghylch y canlynol:
- osgoi cyffwrdd ei lygaid, ei drwyn a’i geg gyda dwylo heb eu golchi
- osgoi cyswllt agos â phobl sy’n sâl.
Os ydych chi’n poeni bod gan eich plentyn symptomau coronafeirws, ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 neu 111. Peidiwch â mynd i weld eich meddyg teulu nac i unrhyw amgylchedd gofal iechyd arall.