Cyngor i hedfan baner ar gyfer Diwrnod 999
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 08 Medi 2021
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dangos ei gefnogaeth i'r GIG a gwasanaethau argyfwng trwy hedfan baner o’r Swyddfeydd Dinesig ar ddiwrnod 999.
Mae’r dathliad ledled y DU yfory (dydd Mercher, 9 Medi) yn anelu at hyrwyddo’r GIG ac arwyr 999 sydd wedi gwasanaethu’r cyhoedd Prydeinig yn ogystal â hyrwyddo cyfleoedd gyrfa a gwirfoddoli, defnydd cyfrifol o’r gwasanaethau argyfwng a’r gwaith a wnaed gan yr elusennau gwasanaethau argyfwng.
Bydd baner Diwrnod 999 yn cael ei chodi ledled y wlad gan gynnwys o’r Swyddfeydd Dinesig yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd y diwrnod hefyd yn cael ei nodi gyda dwy funud o dawelwch i gofio'r holl weithwyr gwasanaethau argyfwng a laddwyd o ganlyniad i’w dyletswyddau.
Sefydlwyd y diwrnod cenedlaethol yn 2016 ac mae’n cael ei gefnogi gan Ei Mawrhydi y Frenhines, Tywysog Cymru a Dug Caergrawnt, y Prif Weinidog a Phrif Weinidogion Gogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru.
Rydym yn falch o fod yn cefnogi Diwrnod 999 eleni trwy hedfan y faner o’r Swyddfeydd Dinesig.
Mae ein harwyr y GIG a 999 yn gwneud swyddi gwych gan ein cadw’n ddiogel a heddiw yw’r cyfle perffaith i’w hanrhydeddu a chofio’r rhai sydd wedi colli eu bywyd yn gwasanaethu’r genedl.
Gwahoddwn bawb ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ymuno â ni i ddathlu ein gwasanaethau argyfwng ar 9 Medi.
Arweinydd y Cyngor, Huw David