Cyngor i gymryd rhan mewn peilot Pleidleisio Hyblyg
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 09 Chwefror 2022
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cymryd rhan mewn peilot Pleidleisio Hyblyg, yn yr Etholiadau Lleol ym Mai 2022.
Bydd y peilot yn caniatáu pleidleisio mewn rhai gorsafoedd pleidleisio ar y Dydd Mawrth a Dydd Mercher cyn y diwrnod pleidleisio ar Ddydd Iau 5 Mai 2022.
Mae'r wardiau sydd wedi eu dewis ar gyfer y peilot wedi cael eu pennu ar sail y niferoedd a bleidleisiodd yn yr Etholiadau Lleol yn 2017 ac fe adnabuwyd pum ward oedd â'r niferoedd isaf o bobl a bleidleisiodd, a'r niferoedd isaf o bobl a bleidleisiodd mewn gorsafoedd pleidleisio.
Mae'r wardiau a ddewiswyd ar gyfer peilot Mai 2022 yn cynnwys Dwyrain Bracla a Llangrallo Isaf, Canol Dwyrain Bracla, Gorllewin Bracla, Canol Gorllewin Bracla, Corneli yn ogystal ag Y Pîl, Mynydd Cynffig a Chefn Cribwr, a Llansanffraid-ar-Ogwr ac Ynysawdre.
Mae peilot ar wahân yn digwydd o fewn Ysgol Gyfun Cynffig ar gyfer disgyblion sy'n gymwys i bleidleisio.
Bydd 20 o orsafoedd pleidleisio ar agor o 7am hyd at 9pm yn ystod y peilot a hynny ar draws saith ward ar y Dydd Mawrth a Dydd Mercher gan roi dewis o dri diwrnod i'r etholwyr i fwrw eu pleidlais.
Yn Ysgol Gyfun Cynffig, bydd dwy orsaf bleidleisio ar agor ar y Dydd Mawrth o 8.30am hyd at 4.30pm.
Mae'r wardiau peilot hyn yn cynrychioli oddeutu 27% o'r awdurdod lleol ac yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer rhedeg y peilot ac asesu p'un ai ydi cael gorsafoedd pleidleisio ar agor am ddeuddydd ychwanegol yn gwella'r niferoedd sy'n pleidleisio ai peidio o'i gymharu â'r niferoedd a bleidleisiodd mewn wardiau eraill.
Mae'r peilot ysgol yn Ysgol Gyfun Cynffig yn gyffrous iawn a bydd yn galluogi disgyblion oed 16+ i bleidleisio mewn amgylchedd y maent yn gyfforddus ag o a gobeithio y bydd yn eu hannog i barhau i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yn y dyfodol.
Mae cyfarfodydd rheolaidd wedi ac yn parhau i gael eu cynnal rhwng swyddogion, Llywodraeth Cymru a darparwyr meddalwedd i sicrhau bod y peilot yn gyfreithlon a dichonadwy. Rydym yn hyderus iawn fod popeth neu y bydd popeth yn ei le i gyflawni peilot llwyddiannus.
Arweinydd y Cyngor, Huw David