Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor i geisio barn ynghylch ymestyn gorchmynion mannau cyhoeddus

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn bwriadu ymgynghori â thrigolion lleol ynghylch cynigion a allai ymestyn y Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg, Porthcawl, Pencoed a Chaerau.

Wedi’u cynllunio i helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae’r gorchmynion yn ei gwneud yn drosedd i unrhyw un barhau i yfed alcohol neu fethu ag ildio sylweddau meddwol pan ofynnir iddynt wneud hynny gan swyddog heddlu neu swyddog awdurdodedig y cyngor.

O dan y gorchmynion, mae’n ofynnol hefyd i berchnogion cŵn sy’n defnyddio unrhyw fan cyhoeddus yn y fwrdeistref sirol gario bagiau, codi baw eu hanifeiliaid, cael gwared ar eu gwastraff mewn modd cyfrifol, a rhoi cŵn ar dennyn os yw swyddog yn gofyn iddynt wneud hynny. Mae unrhyw un sy’n methu â chydymffurfio mewn perygl o gael cosb benodedig o £100.

Gofynnir nawr am farn pobl ynghylch a ddylai’r gorchmynion gael eu hymestyn am dair blynedd arall, ac a ddylai’r ardal sy’n cael ei hadnabod fel yr ardal chwarae neu ‘Wildmill adventure park’ oddi ar Heol Quarella gael ei chynnwys.

Yn ogystal, bydd yn gofyn am farn ynghylch a ddylai gorchymyn llidiartu sy’n cyfyngu mynediad rhwng Stryd Talbot a Stryd Plasnewydd ym Maesteg gael ei ymestyn i gynnwys 5:30pm-9am rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn, ac am 24 awr ar ddyddiau Sul a gwyliau banc.

Mae Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus wedi bod yn eithriadol o effeithiol o ran atal ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn mannau cyhoeddus, ac yn helpu i sicrhau y gall pobl sy’n ufudd i’r gyfraith barhau i ddefnyddio a mwynhau mannau cyhoeddus sy’n ddiogel rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Rwyf eisiau pwysleisio, o dan y gorchmynion, y gall pobl barhau i fwynhau eu hunain a dathlu mewn modd cyfrifol – yn syml mae’r rheolau yn caniatáu i’r awdurdodau gamu i mewn lle bod angen er mwyn ymateb i broblem, neu atal problem rhag datblygu.

Cynghorydd Stuart Baldwin, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau

Chwilio A i Y