Cyngor i ddechrau ar brosiect cyllido rhanbarthol
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 19 Ionawr 2022
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar y cyd gyda chynghorau cyfagos wedi dechrau ar brosiect cyllido rhanbarthol.
Ariennir y prosiect Cysylltu, Ymgysylltu, Gwrando, Trawsnewid (CELT) drwy Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU.
Mae cyfanswm o 10 awdurdod lleol sy’n ffurfio’r Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn rhan o’r prosiect a gyflwynwyd i Lywodraeth y DU ym Mehefin 2021.
Mae’r elfen Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o’r prosiect wedi gofyn am £274,817 gan gronfa Llywodraeth y DU er mwyn i bobl gael mynediad i gyflogaeth, addysg a hyfforddiant, cymorth sgiliau bywyd, chwilio am waith neu ymgysylltu â’r system fudd-daliadau.
Y prif feysydd y bydd yr awdurdod lleol yn canolbwyntio arnynt fydd cydweithio gyda chleientiaid sydd yn awyddus i ddatblygu menter newydd, a’u cefnogi, ac ymgysylltu gyda darparwyr iechyd er mwyn cynyddu atgyfeiriadau cyflogadwyedd gan gleientiaid sydd â phroblemau iechyd a datblygu model partneriaeth cyflogadwyedd newydd a enwir yn Rhwydwaith Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae hon yn elfen bwysig o’n gwaith sydd o gymorth i bobl sydd naill ai ddim mewn gwaith ar hyn o bryd neu sydd mewn swyddi amhriodol.
Mae ein ffocws yn y prosiect hwn wedi sefydlu targedau hynod uchelgeisiol ond cyraeddadwy er mwyn cael cymaint o bobl â phosib yn gyflogedig.
Rydym yn dyst i’r gwahaniaeth y gall y prosiectau a’r rhaglenni hyn ei wneud nid yn unig i unigolion ond i ddewisiadau bywyd a sefyllfaoedd eu teuluoedd. Gall hyn newid dyheadau o fewn teuluoedd sy’n rhoi’r ysgogiad iddynt allu mynd i mewn i fyd gwaith.
Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol