Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn nodi Wythnos Ddiogelu Genedlaethol
Poster information
Posted on: Dydd Llun 05 Tachwedd 2018
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymuno â sefydliadau eraill ledled Cymru rhwng 12 a 16 Tachwedd i nodi Wythnos Ddiogelu Genedlaethol a chodi ymwybyddiaeth o’r ffurfiau gwahanol y gall cam-drin ei gymryd.
Mae'r wythnos ymwybyddiaeth yn cyrraedd ychydig wythnosau ar ôl lansio Hwb Diogelu Amlasiantaethol (MASH) Pen-y-bont ar Ogwr i ddiogelu’r bobl sydd fwyaf agored i niwed ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Trwy gydol yr Wythnos Ddiogelu Genedlaethol, bydd y cyngor yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau i’r cyhoedd gymryd rhan ynddynt, gyda digwyddiadau yn amrywio o ymwybyddiaeth o gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol i sesiynau e-ddiogelwch ar 'secstio'.
Ceir rhestr lawn o'r digwyddiadau a gynhelir yn Swyddfeydd Dinesig Pen-y-bont ar Ogwr isod:
Dydd Llun 12 Tachwedd
- Hunan-niweidio gan blant a phobl ifanc: 10.30am i 11.30am neu 2.30pm i 3.30pm
- Sut i siarad â glaslanciau a hyrwyddo eu hiechyd a'u llesiant: 11.30am i 12.30pm neu 2.30pm i 3.30pm
Dydd Mawrth 13 Tachwedd
- Barnado’s / Sesiwn galw heibio Calan DVS: 10am i 12 hanner dydd
- Sut i adnabod cam-fanteisio’n rhywiol ar blentyn: 10.30am i 11.30am
Dydd Mercher 14 Tachwedd
- Sesiwn galw heibio Teleofal: 10am i 12 hanner dydd
- E-ddiogelwch – ‘secstio’: 10.30am i 12 hanner dydd
- Sesiwn galw heibio ar drais domestig, ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd casineb: 2pm i 4pm
Dydd Iau 15 Tachwedd
- Camfanteisio’n rhywiol ar blentyn: 9.30am i 11.30am
Dydd Gwener 16 Tachwedd
- Sesiwn galw heibio Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr: 10am i 2pm
- Troseddau a thwyll ar stepen y drws: 10am i 11am
- Ymwybyddiaeth o gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol: 1.30pm i 2.30pm
Mae sesiynau ymwybyddiaeth penodol wedi'u trefnu hefyd ar gyfer arbenigwyr a hoffai ddarganfod mwy ynglyn â diogelu.
Bydd bod â'r gallu i helpu pobl leol i ddilyn bywydau mwy diogel bob amser yn flaenoriaeth i'r cyngor a'n holl bartneriaid sy'n gweithio gyda'i gilydd ym MASH Pen-y-bont ar Ogwr.
Fel y gwelwch o'r sesiynau cyhoeddus y byddwn yn eu cynnal yn ystod yr Wythnos Ddiogelu Genedlaethol, mae sawl ffurf ar ddiogelu. Mae gan bob un ohonom rôl i'w chwarae i helpu i gadw eraill yn ddiogel, felly mae'n hanfodol fod pawb yn fwy ymwybodol o'r gwahanol fathau o niwed, camdriniaeth ac esgeulustod, a deall sut i adnabod yr arwyddion a'r peryglon.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Huw David
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i unrhyw un o weithgareddau'r Wythnos Ddiogelu Genedlaethol a drefnir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, cysylltwch â Kim Davies: kim.davies@bridgend.gov.uk i gadw lle.
Gall unrhyw aelod o'r cyhoedd na all ddod i ddigwyddiad ond hoffai ddarganfod mwy alw heibio stondin ddiogelu'r cyngor yn y Swyddfeydd Dinesig rhwng 10am a 2pm ar ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau neu ddydd Gwener, neu rhwng 10am a 4pm ar ddydd Mercher.