Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cytuno i gyflwyno prosiectau sylweddol i raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i gyflwyno dau brosiect lleol, sylweddol, i raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, a gallant bellach gael eu hystyried i dderbyn cyllid a fyddai o fudd i drigolion ledled y fwrdeistref sirol.

Mae ceisiadau wedi'u cyflwyno i dderbyn cyllid ar gyfer ailddatblygiad Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl ac ail-adeiladu pont reilffordd Penprysg ym Mhencoed.

Mae'r rhaglen yn nodi agenda clir i gefnogi buddsoddiad diwylliannol, fel helpu i gynnal, adfywio, neu ail-bwrpasu amgueddfeydd, orielau, atyniadau ymwelwyr ac asedau treftadaeth mewn modd creadigol, yn ogystal â chreu ardaloedd newydd sy'n eiddo i'r gymuned er mwyn cefnogi'r celfyddydau a gweithredu fel ardaloedd diwylliannol.

Dyma amlinelliad o'r ddau gynnig:

Pafiliwn y Grand Porthcawl (cais etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr)

Mae'r prosiect hwn wedi bod ar y gweill ers 2016, pan gomisiynodd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar gwr, astudiaeth o'r opsiynau er mwyn gwella ac ailddatblygu'r adeilad Rhestredig Gradd II.

Prif nodau'r gwaith o adnewyddu Pafiliwn y Grand yw mynd i'r afael â'r problemau sy'n ymwneud â risg i ddeunydd yr adeilad sy'n bodloni yng nghyflwr y strwythur concrid, wrth hefyd fodloni anghenion a dyheadau pobl leol i gynnig gwell gwasanaethau llyfrgell, treftadaeth a'r celfyddydau.

Mae'r cyfleusterau arfaethedig newydd yn cynnwys:

  • Mannau newydd i gynnal digwyddiadau ar y llawr cyntaf (Promenâd)
  • Mannau caffi a digwyddiadau ar y to newydd, sy'n cynnig golygfeydd godidog o'r môr ar draws Môr Hafren
  • Theatr Stiwdio newydd a chyfleusterau ategol
  • Rhagor o gyfleusterau llesiant, ac o ansawdd gwell, gan gynnwys cyfleuster lleoedd newid newydd,
  • Mannau gweithdy neu ddeori busnes ar lefel stryd
  • Swyddfeydd newydd

Mae'n amlwg bod ailddatblygiad Pafiliwn y Grand yn gyfle i gynnal cynllun cyfalaf etifeddol a blaenllaw. Mae hefyd yn rhan allweddol o Raglen Adfywio ehangach Porthcawl.

Pont Reilffordd Penprysg (cynnig Trafnidiaeth)

Mae cynnig pont reilffordd Penprysg wedi bod yn brosiect hirsefydlog i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac mae wedi'i gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol presennol.

Byddai'r prosiect yn golygu adeiladu pont newydd ar ffordd Penprysg, a fyddai'n addas ar gyfer traffig o'r ddau gyfeiriad ac yn arwain at gau croesfan reilffordd Pencoed yn y pen draw. Bydd pont teithio llesol newydd sbon ar gyfer cerddwyr a beicwyr hefyd.

Mae croesfan reilffordd Pencoed ar brif reilffordd De Cymru, a phan fydd ar waith, mae traffig yn casglu ar y ffordd, sy'n arwain at dagfeydd sylweddol yng nghanol y dref.

Bydd y cynlluniau hefyd yn cynnig tir datblygu posibl i’r gorllewin o'r groesfan bresennol ac yn galluogi buddsoddiad a chyfleusterau newydd.

Gall y prosiectau hyn gynnig sawl budd i drigolion ledled y fwrdeistref sirol. Mae Pafiliwn y Grand yn rhan o wead Porthcawl ac mae'r rhaglen Ffyniant Bro yn cynrychioli cyfle gwych i gadw ei statws am genedlaethau i ddod, wrth wella'r cyfleusterau eto fyth.

Mae gan bont reilffordd Penprysg hefyd sawl budd, a byddai'n helpu i wella traffig yn yr ardal, yn ogystal â chreu llwybrau gwell ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Bydd y gymuned hefyd yn elwa o fuddsoddiad newydd ar y tir sy'n cael ei ddatgloi gan y gwaith.

Rydym hefyd yn gweithio ar gais ychwanegol ar gyfer etholaeth Ogwr, y byddwn yn ystyried ei gyflwyno yn y rownd ymgeisio nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio

Chwilio A i Y