Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael grant o'r Gronfa Teithio Llesol
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 01 Mehefin 2022
Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn falch o fod wedi sicrhau grant sy'n werth ychydig dros £5 miliwn fel rhan o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.
Bydd y cyllid yn fuddiol i drigolion oherwydd caiff ei ddefnyddio i greu llwybrau beicio a cherdded diogel ac agored, fydd yn annog pobl i beidio â dibynnu'n ormodol ar geir.
Bydd hyn hefyd yn hanfodol o ran helpu Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gyflawni ei dargedau o leihau allyriadau i sero carbon net erbyn 2050.
Bydd dyraniad y grant yn golygu y bydd effaith y cyllido yn amlwg ar draws y fwrdeistref sirol gyfan:
- Pen-y-bont ar Ogwr i Bencoed (Pecyn o welliannau cam tri) - £3.46 miliwn
- Ynysawdre i Fryncethin- £105,000
- Y Pîl i Borthcawl (Llwybr teithio llesol cam un) - £387,000
- Gwelliannau i groesfan fach llwybr teithio llesol - £392,000
- Dyraniad craidd - £707,000
Ar ôl cwblhau'r gwaith, bydd Pen-y-bont ar Ogwr a Phencoed wedi'u cysylltu heb unrhyw fylchau.
Mae hwn yn grant sylweddol i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a bydd yn hollbwysig o ran sicrhau bod pawb â'r dewis i deithio ar feic neu ar droed.
Mae'n bwysig iawn fod gennym y seilweithiau cywir ar waith, gan ein bod ni eisiau ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i'n trigolion deithio o amgylchedd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn ffordd sy'n well ar gyfer y blaned.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd John Spanswick