Cyngor ar gael yn y Ffair Cymorth Busnes arfaethedig
Poster information
Posted on: Dydd Iau 27 Hydref 2022
Gwahoddiad i fusnesau ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fynychu Ffair Cymorth Busnes arfaethedig.
Bydd y cyfarfod rhad ac am ddim yn cael ei gynnal ddydd Iau 3 Tachwedd rhwng 4pm a 6pm yn Academi STEM, Campws Pencoed ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae gwahoddiad i fentrau o bob sector a maint fynychu, a bydd cymorth ac arweiniad ar gael i gynorthwyo rhedeg busnes yn effeithiol.
Bydd nifer o bartneriaid ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn mynychu'r ffair yn cynnwys Tîm Menter Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr, Busnes Cymru, Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Busnes mewn Ffocws, Pop Up Wales Llywodraeth Cymru, ITEC Training Solutions Ltd, ACT Training Ltd a llawer mwy.
Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim yn darparu'r holl wybodaeth ac arweiniad sydd ei angen arnoch i gefnogi a gwneud y mwyaf o'ch busnes, p'un ai ydych yn meddwl dechrau busnes neu eisiau arweiniad ar gyfer eich busnes presennol.
Y chwaraewr rygbi proffesiynol a sylfaenydd ‘Ahead of the Game Nutrition’, Rory Pitman, yw dim ond un o'r nifer o fusnesau lleol sydd wedi elwa o ystod o gymorth ar ôl mynychu digwyddiad blaenorol ym mis Gorffennaf.
Dechreuodd Rory ei fusnes ym mis Hydref 2020, wrth ganolbwyntio ar ddosbarthiadau coginio a gweithdai ar gyfer ei iechyd meddwl yn yr amgylchedd chwaraeon. Penderfynodd Rory fynd â'r dosbarthiadau a'r arddangosiadau un tro hyn i gyfeiriad gwahanol. Mae'r cwmni bellach yn darparu amrywiaeth o brydau a byrbrydau iach a blasus wedi eu paratoi i rai o'r campfeydd a'r timau chwaraeon gorau yn ne Cymru.
Roedd modd i Rory geisio cyfuniad o wasanaeth cymorth ac arian gan Gynllun Grant Dechrau Busnes Bach y cyngor, Tîm Arloesi Llywodraeth Cymru drwy Raglen Gwella Cynhyrchedd a chystadleuaeth Nodau Gwyrdd Busnes mewn Ffocws, ble cafodd wobr ariannol am ymrwymiad y fenter i ddatgarboneiddio.
Am ragor o wybodaeth ynghylch y ffair cymorth busnes , ebostiwch: business@bridgend.gov.uk neu galwch heibio ar y diwrnod.