Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynghorwyr yn cael diweddariad ar gymorth ar gyfer clybiau chwaraeon lleol

Mae aelodau o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf gan Arweinydd y Cyngor, Huw David, am sut mae clybiau chwaraeon lleol yn elwa o'r broses trosglwyddo asedau cymunedol (CAT).

Roedd y cyngor wedi rhybuddio'n flaenorol, oherwydd gostyngiadau enfawr mewn cyllid, na fyddai'n gallu fforddio rhoi cymhorthdal i glybiau ar ôl 2020, yr oedd rhai ohonynt yn cael cefnogaeth gwerth cymaint ag 80 y cant.

Er mwyn osgoi gorfod talu cost lawn y ffioedd yn uniongyrchol, cafodd clybiau eu hannog i weithio ochr yn ochr â'r cyngor i hunanreoli cyfleusterau lleol.

O ganlyniad i gyfraniad y clybiau i'r broses CAT, nid oes rhaid i unrhyw un ohonynt dalu'r ffioedd yn llawn ers i'r newidiadau gael eu cyflwyno, a hyd yn hyn, mae bron i £724,800 wedi'i ddyrannu i gefnogi'r gwaith o wella pafiliynau a chaeau chwarae lleol.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David: "Adroddwyd i'r Cabinet yn 2020 bod un ai cynghorau tref a chymuned neu glybiau chwaraeon wedi cyflwyno mynegiannau o ddiddordeb ar gyfer pob un o'i gaeau chwarae a phafiliynau parc.

O ganlyniad, nid oes unrhyw glwb wedi gorfod profi cost lawn adfer.

“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r cyngor hefyd wedi hepgor ffioedd llogi ar gyfer defnyddio pafiliynau chwaraeon a chaeau chwarae er mwyn cefnogi clybiau chwaraeon yn ystod pandemig covid. 

"Yn ogystal â hynny, gwnaethom sefydlu'r Gronfa Cefnogi Chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr gwerth £75,000 yn 2019-20, er mwyn cynnig grantiau hyd at £1,000 i glybiau er mwyn eu helpu i ymdopi â chostau gweithredu o ddydd i ddydd. 

"Yn yr un modd, cyflwynwyd cyllid eto yn 2021-22 er mwyn cefnogi clybiau i adfer o'r pandemig, y tro hwn gyda chynigion hyd at £2,000 ar gyfer datblygiad clwb a £3,500 ar gyfer datblygu asedau.

"Mae asedau fel y pafiliynau chwaraeon a chaeau chwarae ym Mryncethin a Bae Rest, neu sawl canolfan gymunedol a meysydd chwarae wedi'u trosglwyddo dan y rhaglen CAT, hefyd wedi elwa o welliannau sylweddol.

"Mae hyn wedi cynnwys cyllid cyfalaf dan gynllun CAT y cyngor a thua £1m mewn buddsoddiad allanol gan Lywodraeth Cymru, Undeb Rygbi Cymru, y Loteri Genedlaethol a Chronfa Gwaddol Gymunedol Ford. 

"Yn olaf, ar y cyd â phartneriaid fel Cwmpas ac Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo, mae'r tîm CAT yn gweithio'n agos gyda chynghorau tref a chymuned a grwpiau cymunedol ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn sicrhau bod modd cyflawni canlyniadau tebyg mewn meysydd eraill."

Chwilio A i Y