Cynghorwyr o bob parti a grŵp yn cefnogi Diwrnod Rhuban Gwyn
Poster information
Posted on: Dydd Iau 25 Tachwedd 2021
Mae cynghorwyr o bob parti a grŵp yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymuno â staff awdurdod lleol i gyd-sefyll yn erbyn trais domestig fel rhan o Ddiwrnod Rhuban Gwyn 2021.
Yn cael ei gynnal heddiw (Dydd Iau 25 Tachwedd), mae’r Diwrnod Rhuban Gwyn yn nodi cychwyn ymgyrch 16 diwrnod sy’n anelu at ddod â chymunedau, sefydliadau a gweithleoedd ynghyd i ddweud ‘na’ i drais yn erbyn merched.
Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae cynghorwyr o bob parti a grŵp wedi dod ynghyd yn ogystal â staff sydd wedi cael tynnu eu lluniau yn gwisgo rhubanau gwyn ac wedi arwyddo addewid cenedlaethol newydd i beidio fyth â chyflawni, esgusodi nac aros yn dawel ynglŷn â thrais yn erbyn merched.
O fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae’r Maer John Spanswick yn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r ymgyrch mewn digwyddiad bore heddiw a gynhelir gan y gwasanaeth Assia Domestic Abuse ar Sgwâr y Farchnad Maesteg.
Dywedodd y Cynghorydd Spanswick: “Rydym yn falch o fod yn cefnogi Diwrnod Rhuban Gwyn y mis Tachwedd hwn. Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl yn sefyll, yn siarad yn erbyn ac yn dweud na wrth drais yn erbyn merched. Eleni, mae'r neges yn bwysicach nag erioed gyda chynnydd sylweddol mewn trais, aflonyddu a chamdrin tuag at ferched.”
Rydym yn awyddus iawn i helpu i hyrwyddo’r ymgyrch hwn er mwyn tynnu sylw at y ffaith drist fod rhai pobl o fewn ein cymunedau yn ofni trais a chamdriniaeth bob diwrnod o’r flwyddyn.
Mae’n holl bwysig bod dynion a merched yn dod at ei gilydd i rannu eu barn am drais gan ddynion a chamdriniaeth tuag at ferched a genethod, er mwyn annog trafodaeth a gwneud ein strydoedd a’n haelwydydd yn ddiogel i ferched.
Dylai pob merch fyw heb ofn. Nid oes lle i ofn na thrais yn ein cymdeithas.
Cynghorydd David White, Hyrwyddwr Rhuban Gwyn
Mae'r Gwasanaeth Assia Domestic Abuse a gynhelir gan yr awdurdod lleol yn cefnogi pobl sy’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan gamdrin a thrais domestig, neu sy’n poeni am berthynas neu ffrind. Mae’r gwasanaeth wedi’i enwi ar ôl Assia Newton, o Bencoed, a gafodd ei llofruddio’n drasig yn ei chartref ym mis Gorffennaf 2013, ar ôl degawdau o gamdrin domestig.
Am ragor o fanylion ynghylch Diwrnod Rhuban Gwyn neu i arwyddo’r addewid i beidio â chyflawni, esgusodi na chadw’n dawel ynghylch trais yn erbyn merched, ewch i’r wefan Diwrnod Rhuban Gwyn.
I gyrchu Cefnogaeth a Gwybodaeth Trais Domestig, cysylltwch â gwasanaeth trais domestig yr awdurdod lleol, Assia, ar 01656 815919 neu e-bostiwch assia@bridgend.gov.uk.