Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynghorau yn cadw golwg ar berfformiad ailgylchu a gwastraff.

Mae cynghorau wedi bod yn craffu ar wasanaeth ailgylchu Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr heddiw, yn clywed sut mae trigolion lleol wedi helpu’r awdurdod lleol i fynd o’r 21ain safle i'r ail orau am ailgylchu yng Nghymru mewn blwyddyn yn unig.

Mae'r modd y mae trigolion wedi croesawu’r terfynau gwastraff bob pythefnos a gyflwynwyd yr haf diwethaf, wedi trawsnewid cyfradd ailgylchu'r fwrdeistref sirol o 57.9 y cant i 68.61 y cant.

Dim ond Cyngor Sir Ynys Môn sy'n ailgylchu mwy o wastraff cartref yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda chyfradd ailgylchu flaenllaw o 72.19 y cant.

Mae'r gwelliant ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn sicr wedi bod yn drawiadol, ond gan fod rhai trigolion wedi cael trafferth gyda'u casgliadau ailgylchu a gwastraff dros y flwyddyn ddiwethaf, gofynnodd cynghorwyr sy’n rhan o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am ddiweddariad ar y sefyllfa gyffredinol i'w gyflwyno yn eu cyfarfod ddydd Llun 17 Medi.

Clywodd aelodau etholedig, yn ogystal â'r gyfradd ailgylchu yn cynyddu, bod y gwasanaeth cyffredinol hefyd wedi gwella, i’r graddau bod nifer y cwynion a gyflwynir gan drigolion bob mis bellach yn is nag yr oedd cyn i'r trefniadau newydd gael eu cyflwyno ym Mehefin 2017.

Mae'r cyngor a'i bartneriaid ailgylchu Kier, wedi cymryd nifer o gamau i ddarparu gwasanaeth mwy cyson i drigolion. Mae cerbydau casglu newydd wedi cael effaith gadarnhaol gan fod ganddynt fwy o le ar gyfer plastig a chardfwrdd, tra bod canolfan cyswllt cwsmeriaid 'Tor2' Kier wedi gwella'n aruthrol i fodloni lefelau perfformiad cytundebol. Mae'r ganolfan gyswllt a leolir yn Torquay yn ymdrin â phob galwad ffôn, neges e-bost a chais ar-lein ynglŷn â chasgliadau ailgylchu a gwastraff preswylwyr Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Rydyn ni bob amser wedi dweud ein bod yn disgwyl problemau cychwynnol wrth i'r trefniadau newydd gael eu cyflwyno, ond rydym wedi gweithio'n raddol drwy'r rheini ac rydym yn falch o'r perfformiad cyfredol cyffredinol. Er bod rhai heriau ynysig i'r gwasanaeth yn codi o dro i dro, rydym yn mynd i'r afael ag unrhyw broblem barhaus cyn gynted ag y bo modd.

Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd y Cyngor

Yn y cyfarfod craffu, clywodd cynghorwyr hefyd am gynlluniau ar gyfer y dyfodol. Dywedwyd wrthynt y bydd gwe-gamerau yn cael eu gosod yn y Canolfannau Ailgylchu Cymunedol ym Maesteg a Brynmenyn yn fuan er mwyn i drigolion allu edrych i weld pa mor brysur yw'r safleoedd cyn penderfynu a ddylid ymweld â nhw ai peidio.

Hysbyswyd y Cynghorwyr hefyd bod cynlluniau ar gyfer ychwanegu ffilm a phlastig du i'r ystod o blastigau y gall cartrefi eu hailgylchu ar garreg y drws, wedi'u gohirio oherwydd ansicrwydd mewn marchnadoedd ailgylchu byd-eang.

Yn dilyn penderfyniadau gan Tsieina a rhai gwledydd Dwyrain Pell eraill megis Malaysia a Taiwan i wahardd mewnforion gwastraff plastig cartref, mae'r farchnad fyd-eang ar gyfer plastigau wedi newid yn sylweddol. Mae pobl sy'n ailgylchu plastig yn blaenoriaethu ansawdd yn fwy nag erioed, ac ystyrir mai poteli plastig cymysg yw’r eitemau mwyaf poblogaidd i'w hailgylchu, tra bod llai o alw am ffilm a phlastig du.

O ganlyniad, ystyriwyd ei bod yn ormod o risg ac nad oedd hi’n briodol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr newid ei gasgliadau plastig presennol. Er hynny, bydd yr opsiwn yn cael ei ystyried ar gyfer y dyfodol.

Cadarnhaodd yr adroddiad hefyd fod nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon wedi cynyddu ers mis Mehefin 2017.

Dywedodd y Cynghorydd Williams: "Pan gyflwynwyd y terfynau gwastraff y llynedd, roeddem yn barod am y posibilrwydd na fyddai rhai trigolion diog yn mynd i'r drafferth o ailgylchu eu gwastraff ac yn hytrach yn gollwng eu sbwriel.

“Mae'n eithriadol o rwystredig bod canran fechan o bobl yn dal i beidio â thrafferthu ailgylchu pan rydym wedi ei gwneud hi'n haws nag erioed i ailgylchu amrywiaeth eang o ddeunyddiau ar garreg y drws, neu fynd â nhw i Ganolfan Ailgylchu Gymunedol, neu drefnu casgliad gwastraff swmpus.

"Mae’n mynd i gymryd amser, ond ein dyletswydd ni yw parhau i godi ymwybyddiaeth o’r modd y gall trigolion lleol ailgylchu eu gwastraff, mynd ati’n raddol i wneud hynny yn norm ym mhob un o'n cartrefi, a bod yn llym ar bobl sy'n tipio yn anghyfreithlon.

"Rydym yn gweithio'n galed i ganfod troseddwyr tipio anghyfreithlon a gallwn eu dirwyo am eu hymddygiad hunanol ac anghyfrifol. Os ydych chi erioed yn dyst i unrhyw dipio anghyfreithlon, rhowch wybod i ni. "

Ewch i wefan Ailgylchu dros Pen-y-bont ar Ogwr i ddysgu mwy am ailgylchu.

Chwilio A i Y