Cymru yn camu i Lefel Rhybudd tri
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 26 Mawrth 2021
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y rheol aros yn lleol yn cael ei chodi yfory (dydd Sadwrn), ac yn y cyfamser, fe ganiateir i bobl deithio ledled Cymru fel rhan o ddull graddol i lacio cyfyngiadau coronafeirws.
Mae'n golygu y bydd y genedl yn dechrau symud o Lefel Rhybudd pedwar i Lefel Rhybudd tri.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod ei dull cam wrth gam arfaethedig i lacio cyfyngiadau'r coronafeirws yn ystyried yr amrywiolyn Caint, sy'n heintus tu hwnt, ac sydd bellach y ffurf fwyaf cyffredin o'r feirws yng Nghymru.
Cyflwynir hyn ar ôl i ddisgyblion ysgolion cynradd a nifer o fyfyrwyr hŷn mewn ysgolion uwchradd a cholegau ailddechrau dysgu yn y dosbarth yn llwyddiannus, yn ogystal ag ailagor manwerthu nad yw'n hanfodol, yn cynnwys ail-agor salonau trin gwallt a barbwyr.
Yn rhan o gyhoeddiad Llywodraeth Cymru, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y byddai'r sector twristiaeth yng Nghymru hefyd yn gallu dechrau ailagor ddydd Sadwrn 27 Mawrth.
Yn ychwanegol at hyn, bydd chwe unigolyn o ddwy aelwyd wahanol yn gallu cwrdd â'i gilydd, a gellir ailddechrau gweithgareddau a chwaraeon awyr agored i unigolion dan 18 oed.
Mae'r newidiadau llawn yn nodi:
- gall llety gwyliau hunangynhwysol, yn cynnwys gwestai gyda chyfleusterau en-suite a gwasanaeth cario bwyd i ystafelloedd, ailagor i bobl o'r un aelwyd neu swigen gefnogaeth.
- Bydd chwe unigolyn o ddwy aelwyd wahanol, ac eithrio plant o dan 11 oed, yn gallu dod at ei gilydd i wneud ymarfer corff yn yr awyr agored ac mewn gerddi preifat
- Gellir ailddechrau gweithgareddau a chwaraeon awyr agored sydd wedi'u trefnu i unigolion dan 18 oed.
- Bydd nifer cyfyngedig o ardaloedd awyr agored mewn lleoedd hanesyddol yn gallu agor
- Bydd llyfrgelloedd ac archifdai'n gallu ailagor.
Bydd y cyfyngiadau presennol ar deithio rhyngwladol ar gyfer gwyliau yn parhau ar waith, a dim ond y bobl hynny sydd â rheswm dilys dros deithio i mewn ac allan o Gymru fydd yn gallu gwneud hynny, megis er mwyn mynd i'r gwaith.
Dywedodd Mr Drakeford: "Mae'r penderfyniad i lacio'r cyfyngiadau hyn ymhellach yn rhan o'n dull graddol a gofalus i gael gwared ar y cyfyngiadau hyn, a galluogi pobl a busnesau i ailddechrau eu gwaith yn y ffordd fwyaf diogel.
"Mae'r aberthau mae pobl o bob cwr o Gymru wedi'u gwneud yn ystod y misoedd diwethaf yn ein galluogi ni i wneud hyn - mae popeth rydych chi'n ei wneud i gadw'ch anwyliaid yn ddiogel hefyd yn cadw Cymru'n ddiogel.
"O ran iechyd cyhoeddus, mae'r sefyllfa'n sefydlog; mae ein rhaglen frechu arbennig yn ffynnu - ac mae gennym le i wneud y newidiadau hyn."
Bydd y rheol dros dro i alluogi pobl i deithio ledled Cymru ar waith tan 12 Ebrill, a bydd yn amodol ar y sefyllfa iechyd cyhoeddus.
Dywedodd Mr Drakeford: "Rydym yn dilyn dull cam wrth gam at lacio cyfyngiadau, ac rydym eisiau parhau i ailagor Cymru.
"I wneud hynny, mae arnom angen cymorth pawb. Mae hynny'n golygu bod yn wyliadwrus o arwyddion o haint; ynysu os oes gennym symptomau a threfnu i gael ein profi.
"Mae hyn hefyd yn golygu bod angen dilyn y camau sylfaenol i gadw ein gilydd yn ddiogel bob amser - cadw ein pellter oddi wrth eraill, peidio â chymysgu dan do, osgoi torfeydd, golchi ein dwylo'n rheolaidd a gwisgo gorchuddion wyneb."
Dywedodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David: "Mae'n wych ein bod ni wedi cyrraedd sefyllfa lle rydym bellach yn gallu teithio'n fwy eang a chwrdd â mwy o aelodau teulu a ffrindiau, a chychwyn dychwelyd at ffordd o fyw normal.
"Byddwn yn gallu mwynhau'r newidiadau hyn y fuan, ond er hyn, cofiwch barhau i gadw at y rheolau er diogelwch pawb."
Bydd yr arolwg nesaf ar y cyfyngiadau yn digwydd yr wythnos nesaf. Bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried y newidiadau canlynol fydd ar waith o 12 Ebrill, yn amodol ar sefyllfa iechyd cyhoeddus.
- Gall yr holl ddisgyblion a'r myfyrwyr ddychwelyd i ysgolion, colegau ac at addysg arall;
- Gall siopau a gwasanaethau cyswllt agos agor;
- Llacio'r cyfyngiad dros dro i deithio ledled Cymru.