Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cymorth ychwanegol i brynu gwisg ac offer ysgol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cynnydd o £100 yng ngwerth y Grant Datblygu Disgyblion (Mynediad) i bob dysgwr cymwys am flwyddyn yn unig.

Mae'r grant hwn yn cynnig cymorth ariannol i deuluoedd sydd ar incwm isel i brynu eitemau megis gwisg ysgol a chitiau chwaraeon.

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru, cyfradd y grant ar gyfer blwyddyn ysgol 2022/23 fydd £225 i bob dysgwr, ac eithrio'r disgyblion hynny sy'n dechrau ym Mlwyddyn 7 a fydd yn gallu hawlio £300.

Bydd cyllid ar gael i ddisgyblion sy'n gymwys ar gyfer prydau bwyd ysgol am ddim, ac mae ar gael i bob grŵp blwyddyn ysgol o'r dosbarth derbyn hyd at Flwyddyn 11, ac mae'n cynnwys disgyblion mewn ysgolion arbennig, canolfannau adnoddau anghenion arbennig ac unedau atgyfeirio disgyblion. Mae'r cyllid ar gael hefyd i blant sy'n derbyn gofal sydd o fewn oedran ysgol gorfodol.

Gall teuluoedd hawlio unwaith am bob plentyn, bob blwyddyn ysgol.

Mae teuluoedd yn wynebu cynydd sylweddol mewn costau byw, a gwyddom y bydd cyllidebau aelwydydd dan bwysau mawr, sy'n golygu y bydd sawl teulu yn poeni am fforddio'r pethau y bydd eu plant eu hangen ar gyfer yr ysgol.

Rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu gwerth y cynllun Grant Datblygu Disgyblion (Mynediad) am flwyddyn, ac rwy'n siŵr y bydd nifer o deuluoedd yma ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael budd ohono.

Byddwn yn annog unrhyw un sy'n gymwys i wneud cais ar gyfer y grant pan fydd ceisiadau ar gyfer cynllun 2022/23 yn agor fis Gorffennaf 2022.

Lindsay Harvey, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae'r Grant Datblygu Disgyblion (Mynediad) yn cynnig cymorth ariannol i deuluoedd sydd ar incwm isel i brynu:

  • Gwisg ysgol, gan gynnwys cotiau ac esgidiau.
  • Citiau chwaraeon ysgol, gan gynnwys esgidiau.
  • Gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) sgowtiaid, y geidiaid, cadetiaid, crefft ymladd, chwaraeon, y celfyddydau perfformio neu ddawns.
  • Offer (er enghraifft, bagiau ysgol ac offer ysgrifennu).
  • Offer arbenigol lle mae gweithgareddau cwricwlwm newydd yn dechrau, megis dylunio a thechnoleg.
  • Offer ar gyfer tripiau y tu allan i oriau ysgol, megis dysgu awyr agored (er enghraifft, dillad gwrth-ddŵr).
  • Offer TG - gliniaduron a dyfeisiau tabled yn unig. Byddwch angen cadarnhau nad yw ysgol eich plentyn yn gallu cynnig benthyca dyfais tabled/gliniadur iddynt ei ddefnyddio gartref.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Chwilio A i Y