Cymorth parcio canol tref yn cael ei ymestyn tan 30 Mehefin
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 01 Ebrill 2022
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau bod y parcio rhad ac am ddim sydd ar gael ar hyn o bryd mewn dau faes parcio canol y dref a gynhelir gan y cyngor, er mwyn bod o gymorth i fasnachwyr, wedi cael ei ymestyn.
Gall gyrwyr barhau i barcio am ddim am y tair awr gyntaf ym maes parcio aml-lawr Rhiw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a rhwng hanner dydd a 3pm ym maes parcio Stryd John ym Mhorthcawl hyd at 30 Mehefin 2022.
Cafodd y cynnig ei gyflwyno ar ddechrau'r pandemig coronafeirws fel rhan o becyn cymorth cyfan y cyngor i helpu busnesau lleol.
Mae hyn wedi cynnwys prosesu miliynau o bunnoedd o gyllid ariannol, gwneud offer yn rhad ac am ddim, arwyddion a hyfforddiant ar gael, darparu cyfraddau rhentu is a rhad ac am ddim i stondinwyr marchnad a mwy.
Mae parcio am ddim yn parhau i fod ar gael ym maes parcio aml-lawr Ffordd Llynfi ym Maesteg a maes parcio Ffordd Penprysg ym Mhencoed.
- Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan meysydd parcio y cyngor.