Cymorth newydd ar gael ar gyfer gwladolion yr Undeb Ewropeaidd
Poster information
Posted on: Dydd Llun 24 Awst 2020
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i sicrhau bod cymorth amrywiol ar gael i wladolion yr Undeb Ewropeaidd fel rhan o ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd.
Mae tudalen we newydd wedi'i sefydlu ar wefan y cyngor er mwyn cynnig un safle penodol ar gyfer adnoddau a gwybodaeth ddefnyddiol i helpu gwladolion yr Undeb Ewropeaidd sy'n dymuno gwneud cais i barhau i fyw a gweithio'n lleol.
Mae'n cynnwys gwybodaeth mewn nifer o ieithoedd gwahanol, dolenni i wefannau defnyddiol, a fideo byr wedi'i animeiddio sy'n esbonio sut mae'r broses ymgeisio'n gweithio.
Os ydych yn ddinesydd yn yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi ymgartrefi yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac rydych yn cyfrannu at fywyd y fwrdeistref sirol, rydym am i chi a'ch teulu allu parhau i fyw, gweithio a chael gafael ar wasanaethau yma. Er mwyn gwneud hyn, mae'n rhaid i chi sicrhau eich bod yn gwneud cais i'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE cyn y dyddiad cau ar 30 Mehefin 2021.
Mae'r dudalen we newydd hefyd yn cynnwys pecynnau cymorth sydd wedi'u cynllunio i gefnogi busnesau lleol, manylion am sut y gall sefydliadau'r trydydd sector gael mynediad at y cyngor a chanllawiau diweddaraf, a diweddariadau ar faterion cysylltiedig – megis sut y bydd data personol yn cael ei drin yn y dyfodol.
Yn fwy na dim, mae'r cyngor a'i bartneriaid yn cynnig ystod lawn o gymorth er mwyn ei gwneud yn haws i wladolion yr Undeb Ewropeaidd barhau i fyw a gweithio yn y fwrdeistref sirol, felly peidiwch ag oedi – ewch i'r safle i gael gwybod mwy am sut rydym yn cefnogi trigolion, busnesau, grwpiau gwirfoddol a sefydliadau lleol ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw David
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen Paratoi ar gyfer Brexit ar wefan y cyngor.