Cymorth cam-drin domestig
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 20 Hydref 2020
Mae gwasanaeth cam-drin domestig newydd, gwell yn cael ei ddatblygu ar gyfer trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno ar gyfres o gynigion a fydd yn dod â rheolaeth uniongyrchol ar wasanaethau cymorth i bobl sy'n profi cam-drin domestig yn fewnol tra'n gwahodd sefydliadau allanol i gyflwyno tendrau ar gyfer darparu meysydd cymorth arbenigol.
Gyda'r contract presennol ar gyfer darparu gwasanaethau cam-drin domestig yn dod i ben ym mis Ebrill 2021, cynhaliwyd adolygiadau annibynnol o'r gwasanaeth.
Canfu'r rhain y byddai gwneud newidiadau newydd yn osgoi dyblygu gwaith rhwng timau ac yn gwneud y gwasanaeth cyffredinol yn fwy cost-effeithiol tra'n sicrhau gwelliannau mewn meysydd fel cyfrinachedd, effeithlonrwydd, gwybodaeth staff, hyfforddiant a chyfathrebu.
Canfu'r adolygiadau hefyd y bydd y newid yn rhoi mwy o hyblygrwydd o ran sut y darperir gwasanaethau tra'n gwella'r ffyrdd y caiff staff cymwysedig eu defnyddio.
Wrth i'r cyngor reoli a darparu gwasanaethau galw heibio a chymorth yn y gymuned, caiff staff cynghori presennol gyfle i symud ar draws i'r gwasanaeth newydd.
Mae gwaith yn mynd rhagddo i wahodd tendrau gan sefydliadau allanol am ddarparu cymorth arbenigol fel rhan o'r gwasanaeth newydd.
Gyda'r contract presennol yn dod i ben yn naturiol ym mis Ebrill 2021, mae hyn wedi rhoi cyfle i'r cyngor adolygu'r ystod lawn o gymorth cam-drin domestig, fel cyngor ac arweiniad galw heibio, tai â chymorth, llety lloches i fenywod, cymorth yn y gymuned, gwasanaethau arbenigol i blant a mwy. Bydd y newidiadau i gyd yn canolbwyntio ar ail-lunio'r ddarpariaeth i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae adolygiadau annibynnol o'r gwasanaeth wedi nodi nifer o feysydd lle gellir ei symleiddio a'i wneud yn fwy effeithlon er budd pobl leol, ac mae hefyd wedi sefydlu y gellir ei drosglwyddo i'r cyngor heb golli swyddi na chostau ychwanegol.
Mae hwn yn wasanaeth pwysig, yn un sy'n cael effaith wirioneddol ar rai o drigolion mwyaf bregus y fwrdeistref sirol, ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut y gallwn ei ddatblygu a'i wella ymhellach.
Dywedodd y Cynghorydd Dhanisha Patel, yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol