Cymorth ariannol ychwanegol i weithwyr llawrydd yn y sectorau diwylliannol
Poster information
Posted on: Dydd Iau 11 Chwefror 2021
Bydd gweithwyr llawrydd sydd eisoes wedi cael cyllid gan Gronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru yn cael £2,500 ychwanegol i’w cefnogi drwy’r cyfnod estynedig hwn o’r cyfyngiadau coronafeirws.
Cyhoeddwyd rownd arall o gefnogaeth gwerth £8.9 miliwn gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yr Arglwydd Elis-Thomas.
Gyda’i gilydd, mae'r Gronfa Adferiad Diwylliannol wedi darparu £63 miliwn i helpu i gynnal y sector celfyddydau a chreadigol, gyda'r gobaith y bydd sefydliadau ac unigolion yn ffynnu eto yn y dyfodol.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog: “Mae'r sector llawrydd yn ganolog o fewn economi Cymru a dwi'n falch iawn ein bod yn gallu cynnig cymorth ychwanegol, sy'n cydnabod y cyfraniad pwysig y mae gweithwyr llawrydd yn ei wneud i fywyd diwylliannol Cymru.
“Mae'r pandemig yn parhau i gyflwyno heriau i weithwyr llawrydd diwylliannol a chreadigol ledled Cymru. Cymeradwywn eu gwytnwch a'u creadigrwydd yn ystod y cyfnod hwn.
“Rydym yn cydnabod y bydd angen proffesiynoldeb, profiad, brwdfrydedd a gweledigaeth y gweithwyr proffesiynol hyn arnom i'n helpu i ddod at ein gilydd ac ailadeiladu ar ôl i'r argyfwng iechyd gilio.”
Mae rhai o’r gweithwyr llawrydd sydd wedi cael cefnogaeth y gronfa wedi gallu parhau â'u gwaith creadigol yn ystod y pandemig.
Rhyddhaodd Lewis Carter, gwneuthurwr ffilmiau indie llwyddiannus wedi'i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, raglen ddogfen, Best Foot Forward, ar Nos Galan i ddathlu a chadw traddodiad Rasys Ffordd Nos Galan yn fyw er gwaethaf y ffaith bod y digwyddiad wedi'i ganslo oherwydd y cyfyngiadau lefel rhybudd pedwar.
Defnyddiodd y cyllid i ryddhau’r ffilm fer Showdown, sydd wedi ennill sawl gwobr, ar-lein. Mae’r ffilm yn cynnwys actorion awtistig a bydd yn cael ei rhyddhau'r wythnos hon.
Dywedodd Lewis: “Roedd y grant i weithwyr llawrydd yn y sectorau diwylliannol yn golygu fy mod yn gallu talu fy nghydweithwyr llawrydd a weithiodd ar fy rhaglen ddogfen Best Foot Forward, a rhoi hwb i ryddhau fy ffilm fer Showdown ar-lein.
“Mae’r ffilm Showdown yn dychwelyd adref ar ôl ymweld â gwyliau rhyngwladol ac ennill gwobrau gan ddwy o wyliau ffilm enwocaf Cymru, Gŵyl Ffilm Ryngwladol Caerdydd, a Gŵyl Ffilm Ryngwladol Bae Caerfyrddin sy’n arwain at enwebiad Bafta.”
Dywedodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David: “Mae'n wych clywed bod yr arian hanfodol hwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ein sector creadigol yn helpu i gefnogi gweithwyr llawrydd lleol fel Lewis i barhau â'u gwaith yn ystod y cyfyngiadau coronafeirws.
“Bydd gweithwyr llawrydd sydd wedi cael cefnogaeth o’r blaen yn cael llythyr hunanddatgan, y bydd angen iddynt ymateb iddo er mwyn i’r cyllid gael ei ryddhau.
“Nid yw’r gronfa’n agored i geisiadau newydd ond gall unrhyw un a fethodd gael cyllid yn wreiddiol wneud cais am y Grant Dewisol Lleol. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Busnes Cymru.”