Cymeradwyo cyllid i wella cyfleusterau cymunedol
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 07 Ebrill 2021
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwy cynigion cyllid cyfalaf ar gyfer ystod o welliannau i gyfleusterau cymunedol ar draws yr ardal.
Yn rhan o waith y cyngor gyda chynghorau tref a chymuned i ddatblygu cyfleusterau a allai fod o dan fygythiad fel arall oherwydd pwysau ar gyllideb, cyflwynwyd adroddiad i'r Cabinet yn ei gyfarfod ddydd Mawrth 6 Ebrill i amlinellu'r cynigion ariannu diweddaraf.
Roedd y ceisiadau am arian gan gynllun Grant Cyfalaf Cyngor Tref a Chymuned 2021-22, a Chronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT) yn cynnwys:
- Cais am £25,675 gan Gyngor Cymuned Bracla ar gyfer gwaith atgyweirio hanfodol i Ganolfan Gymunedol Bracla, a gafodd ei hychwanegu i CAT yn 2015.
- Cynigion gan Gyngor Cymuned Corneli i gael £7,225 i wneud gwelliannau parhaus yng Nghanolfan Gymunedol Gogledd Corneli a £5,000 ar gyfer gwella ffensys yng Nghaeau Chwarae Gogledd Corneli. Mae'r cyngor cymuned mewn trafodaethau ynghylch trosglwyddo’r caeau chwarae, yn cynnwys y pafiliwn.
- Mae Cyngor Cymuned Coety Uchaf wedi gofyn am £15,002.57 i adnewyddu Maes Chwarae Heol Mair yn y Llidiart.
- Gofynnodd Cyngor Cymuned Llangrallo Isaf, sydd yn cwblhau CAT Maes Chwarae Llangrallo ar hyn o bryd, am gyllid i gwblhau cam dau o waith gwella, gyda BCBC yn cynnig darparu hyd at £14,910.54 tuag at gost y prosiect, gan ystyried y gefnogaeth a ddarparwyd eisoes gan yr awdurdod lleol o dan y fenter Hygyrchedd Chwarae.
- Gofynnodd Cyngor Cymuned Llangynwyd Canol am gyfraniad o £5,000 tuag at welliannau draenio yng Nghaeau Chwarae Llangynwyd i gefnogi Clwb Bechgyn a Merched Llangynwyd Rangers. Ar hyn o bryd mae'r clwb yn cwblhau trosglwyddiad ar gyfer y caeau chwarae.
- Fel rhan o'i ailddatblygiad i droi'r hen Swyddfa Gofrestru yn Tŷ’r Ardd yn Sunnyside yn neuadd y dref newydd, gofynnodd Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr am £15,000 tuag at addasiadau hygyrchedd a gwaith daear a £5,500 arall ar gyfer gosod lloriau newydd.
- Gofynnodd Cyngor Cymuned Cefn Cribwr am gyfraniad o £15,014 ar gyfer rhoi arwyneb newydd ar lwybr cerdded cyhoeddus ger cofeb y rhyfel yn y pentref.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn gweithio llawer mwy gyda chynghorau tref a chymuned yn ystod y blynyddoedd diwethaf i feithrin diwylliant o weithio ar y cyd a chydnabod y rôl hynod bwysig y gallant ei chwarae wrth helpu i reoli a chynnal cyfleusterau a gwasanaethau a allai fel arall gael eu colli.
Yn 2020-21, cymeradwyodd y cyngor gyllid ar gyfer llu o adnewyddiadau, gan gynnwys Maes Chwarae Parc Llidiart, Canolfan Gymunedol Bryntirion a Threlales, a Thoiledau Cyhoeddus Stryd John ym Mhorthcawl, yn ogystal ag adnewyddiadau i gaeau chwarae Penyfai, Pafiliwn Cae Gof yng Nghefn Cribwr, Canolfan Gymunedol Gogledd Corneli a Phafiliwn Pencoed.
Rhoddwyd cyllid hefyd ar gyfer gwaith cynnal a chadw allanol hanfodol Canolfan Bywyd Bettws, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, a darparu offer chwarae ym Mharc Waun Cimla yn y Pîl.
Yn ogystal, sefydlwyd cronfa grantiau i gefnogi clybiau chwaraeon sy'n ymgymryd â cheisiadau CAT yn Nyffryn Llynfi.