Cymeradwyaeth i enillwyr gwobrau goruchaf Pen-y-bont ar Ogwr!
Poster information
Posted on: Dydd Iau 19 Medi 2019
‘Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr’ yw prif raglen gwobrau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Wedi’u noddi gan y sefydliad Tai Cymoedd i'r Arfordir, cafodd y seremoni eleni ei chynnal yng Ngwesty Coed-y-Mwstwr yn Llangrallo yn ddiweddar.
Mae’r gwobrau mawreddog hyn yn cael eu trefnu gan Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr a’u cefnogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Maen nhw’n cydnabod ac yn gwobrwyo rhagoriaeth ar draws busnesau o bob maint ac o bob sector yn y fwrdeistref sirol.
Dyma enillwyr pob categori:
- Myfyriwr Busnes y Flwyddyn – Daniel Ralph, Blue Bench Media
- Busnes Newydd y Flwyddyn – Leaf Kitchens & Bedrooms Ltd
- Busnes Gweithgynhyrchu’r Flwyddyn – Rockwool UK Ltd
- Busnes Gwasanaethau’r Flwyddyn – Neuro Physio Wales Ltd
- Busnes Twristiaeth Pen-y-bont ar Ogwr y Flwyddyn – Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru
- Entrepreneur y Flwyddyn – Lauren Cooper, Virtual Wales
- Gwobr y Diwydiannau Creadigol – Wales Interactive Ltd
- Busnes Gwasanaethau Proffesiynol y Flwyddyn – Howells Solicitors
- Busnes Arloesol y Flwyddyn – Spectrum Technologies Ltd
Aeth y wobr gyffredinol – ‘Busnes y Flwyddyn Pen-y-bont ar Ogwr 2019’
Rydym ni bob amser yn llawn edmygedd o safon y busnesau sy’n cymryd rhan yng Ngwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr, felly roedd hi’n bleser enfawr ennill y wobr Busnes Gweithgynhyrchu’r Flwyddyn a’r wobr gyffredinol, Busnes y Flwyddyn Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r gwobrau hyn yn dathlu perfformiad eithriadol ein busnes dros y blynyddoedd diwethaf, yn ogystal â’n cyfraniad ehangach i gynaliadwyedd a’n cymuned leol. Mae hyn yn deyrnged i’n staff gweithgar a hoffwn ddiolch i bob un ohonyn nhw, ac i Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr am y gydnabyddiaeth hon.
Darryl Matthews, Rheolwr Gyfarwyddwr ROCKWOOL UK
Mae amrywiaeth y doniau busnes yn y fwrdeistref sirol yn gwneud argraff ar feirniaid y gwobrau hyn flwyddyn ar ôl blwyddyn. Roedd hi’n bleser cael bod yn rhan o'r noson a dathlu llwyddiant helaeth y gymuned fusnes leol.
Jay Ball, Is-gadeirydd Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr
Llongyfarchiadau i’r holl fentrau sydd wedi cael cydnabyddiaeth arbennig yn y gwobrau hyn. Mae’n gwbl amlwg o safon uchel y ceisiadau o un flwyddyn i'r llall ein bod yn byw mewn bwrdeistref sirol fywiog sydd â diwylliant entrepreneuraidd ardderchog, a chymuned fusnes sy’n ffynnu.
Mae gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr stori wych i’w hadrodd ac mae’n bwysig cymeradwyo'r entrepreneuriaid, y gweithwyr a’r cwmnïau arloesol mwyaf dawnus yn y sector preifat. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno’r gorau i chi gyd ar gyfer y dyfodol.
Huw David, Arweinydd y Cyngor
Cafodd dros £800 ei godi yn y digwyddiad er budd Apêl Elusennol y Maer 2019/20, a hynny ar gyfer yr elusen o ddewis eleni; PRIDE Cymru.
Dyma rai o noddwyr y gwobrau eleni: Cyfreithwyr Berry Smith; Business in Focus; MakeUK, sefydliad y gweithgynhyrchwyr; Cyfrifwyr Siartredig Graham Paul; Cymraeg Byd Busnes; Banc Datblygu Cymru; Handelsbanken; Magenta Financial Planning; BEEP a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch; SME Finance Partners; United Graphic Design a’r prif noddwr, Tai Cymoedd i'r Arfordir.
I gael mwy o wybodaeth am y fforwm ewch i: www.bridgendbusinessforum.co.uk ac i weld lluniau a fideos swyddogol Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr 2019, ewch i: www.facebook.com/bridgendbusinessforum neu ddilyn @fforwmbusnes ar Twitter.