Cyllideb y cyngor wedi’i chytuno ar gyfer 2020-21
Poster information
Posted on: Dydd Llun 02 Mawrth 2020
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno ar gyfanswm cyllideb net o £286.88 miliwn ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Ar ôl ychwanegu cyllid grant, ffioedd a thaliadau, cyllideb refeniw gros y cyngor ar gyfer 2020-21 fydd tua £420 miliwn, gyda rhaglen buddsoddi cyfalaf ychwanegol ar gyfer y flwyddyn o £56.4 miliwn.
Er mwyn ariannu pwysau cyllidebol ychwanegol a thalu am ddiffyg cyllid o £2.4 miliwn, cytunwyd ar gynnydd o 4.5 y cant ar dreth gyngor, sy'n cyfateb i £1.27 yr wythnos ar gyfer preswyl cyffredin mewn Band D.
Diolch i'r cynnydd sylweddol cyntaf mewn cyllid grant craidd gan Lywodraeth Cymru mewn tua 12 mlynedd ac yn unol â blaenoriaethau cyhoeddus a nodwyd yn ystod ymgynghoriad helaeth, nid yw'r cyngor bellach yn ceisio cyflawni nifer o'i gynigion blaenorol, fel gofyn i ysgolion ddod o hyd i arbediad effeithlonrwydd o un y cant.
Mae cynigion eraill nad ydynt bellach yn mynd yn eu blaenau yn cynnwys tynnu Dysgu Oedolion yn y Gymuned, y gwasanaeth teledu cylch cyfyng a chanolfan ailgylchu gymunedol, neu leihau cyllid ar gyfer glanhau strydoedd, priffyrdd a'r ysgol fusnes dros dro.
Yn lle, bydd y cyngor yn gwario £121 miliwn ar addysg yn 2020-21, gan gynnwys £4 miliwn ychwanegol ar gyfer ysgolion.
Hefyd, mae cyllid cyfalaf gwerth £19 miliwn wedi cael ei addo tuag at ddarparu adeiladau ysgol newydd ac wedi'u hailwampio hyd at 2026-27, sydd yn ogystal â'r £21.6 miliwn y mae'r awdurdod eisoes wedi'i fuddsoddi mewn moderneiddio ysgolion.
Bydd cyfanswm o £71 miliwn yn cael ei wario ar wasanaethau cymdeithasol a llesiant, tra bo £21.8 miliwn eisoes wedi’i neilltuo ar gyfer gwaith cyhoeddus mewn gwasanaethau fel priffyrdd, parciau a mannau agored, glanhau strydoedd, trafnidiaeth gyhoeddus, hawliau tramwy a diogelwch ar y ffyrdd.
Bydd tua £8.5 miliwn yn cael ei wario ar gasglu a gwaredu gwastraff tŷ, ac £1.8 miliwn ar wasanaethau rheoliadol fel iechyd amgylcheddol, trwyddedu, safonau masnach ac iechyd anifeiliaid.
Bydd y rhaglen buddsoddi cyfalaf o £56.4 miliwn ar gyfer 2020-21 yn buddsoddi £6.4 miliwn i brosiect ailddatblygu Neuadd Tref Maesteg, £3 miliwn mewn ail-wynebu ffyrdd ac atgyweirio llwybrau cerdded, a £2.75 miliwn ar gyfer prosiectau adfywio Porthcawl. Mae hyn yn ogystal i £4.8 miliwn ar gyfer gwasanaethau sy'n amrywio o oleuadau stryd a chryfhau pontydd i grantiau ar gyfer cyfleusterau i’r anabl a gwaith saernïol ar y priffyrdd.
Bydd goleuadau stryd ynni effeithlon yn derbyn £1.4 miliwn, gyda buddsoddiad o £1.3 miliwn mewn sefydlu canolfan ailgylchu newydd yn y Pîl. Bydd £905,000 yn cael ei fuddsoddi i ganolfan gwasanaethau cymdeithasol amlasiantaeth newydd, tra bydd £816,000 yn helpu i ddatblygu meithrinfeydd cyfrwng Cymraeg newydd ym Metws, Pen-y-bont ar Ogwr, Cwm Ogwr a Phorthcawl.
Gydag anghenion dysgu ychwanegol yn Ysgol Gynradd Cefn Cribwr ar fin derbyn £387,000 a £530,000 i gefnogi gwaith ehangu mynwentydd ym Mhorthcawl a Chorneli, bydd nifer mawr o'r cynlluniau cyfalaf hyn yn cael eu cefnogi drwy gyllid grant allanol yn ogystal ag adnoddau'r cyngor ei hun.
Ymysg y mesurau y bydd y cyngor yn eu cymryd i dalu am y diffyg cyllid o £2.4 miliwn yn 2020-21 mae cynlluniau i leihau cyfraniad yr awdurdod at Wasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De ac ail-drafod contractau gyda phartneriaid fel Halo Leisure ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.
Bydd y cyngor hefyd yn adolygu taliadau ar gyfer casgliadau o wastraff swmpus ac ar gyfer angorfeydd ym Marina Porthcawl, a bydd yn ystyried lleihau'r oriau agor mewn canolfannau ailgylchu cymunedol.
Gwnaeth y setliad uwch na’r disgwyl gan Lywodraeth Cymru alluogi i ni ailystyried ein cynigion cyllideb ar gyfer 2020-21 yn drwyadl, ac ymgorffori cynnydd mewn treth gyngor llawer yn llai nag yr oeddem yn meddwl y byddai ei angen fel arall er mwyn i ni barhau i gyflenwi gwasanaethau hanfodol i fwy na 142,000 o breswylwyr ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am hyn er bod rhaid inni o hyd ystyried ffyrdd o dalu am ddiffyg cyllid cyffredinol o £2.4 miliwn ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Mae'r gyllideb wedi mynd trwy broses gadarn o graffu a thrafodaethau trawsbleidiol, yn ogystal ag ymgynghoriad cyhoeddus, a welodd cynnydd o 40 y cant yn nifer y bobl oedd yn cymryd rhan. "Mae hyn wedi chwarae rôl hanfodol o ran ein helpu i gyrraedd y cynigion cyllideb terfynol gan ein bod unwaith eto wedi gallu blaenoriaethu'r gwasanaethau y mae pobl yn teimlo'n gryfaf yn eu cylch, ac wedi cyfeirio rhan helaeth o'n hadnoddau cynyddol gyfyngedig at ysgolion a gofal am yr henoed a'r rhai sy’n agored i niwed.
Y cynnydd mwyaf yn y gyllideb hon yw ar gyfer ysgolion, gyda buddsoddiad sylweddol mewn addysg anghenion arbennig gan fod y fwrdeistref sirol wedi gweld cynnydd yn nifer y plant sydd angen cefnogaeth arbenigol. Mae llifogydd cenedlaethol diweddar wedi tynnu sylw hefyd at bwysigrwydd buddsoddi yn ein seilwaith cyhoeddus hefyd – nid ceuffosydd ac amddiffynfeydd rhag llifogydd yn unig, ond pethau fel gwaith helaeth i blannu coed er mwyn atal erydiad pridd ac amsugno dŵr. Nid yw cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus ar ôl degawd llawn o gyni cyllidol yn dasg hawdd, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi chwarae rhan yn y gwaith hwn, ac wedi ein helpu i baratoi cyllideb gytbwys o dan amgylchiadau sy’n parhau i fod yn anodd.
Arweinydd y Cyngor, Huw David
Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd, Hywel Williams: "Mae'r gyllideb hon yn cyflenwi cymysgedd synhwyrol o fuddsoddiadau ac arbedion newydd ochr yn ochr â gwasanaethau hanfodol, ac mae’n cymryd safbwynt hynod realistig o'r sefyllfa y mae’n rhaid inni weithio ynddi wrth hefyd ystyried safbwyntiau pobl leol a'r holl aelodau etholedig.
Yn ystod y degawd diwethaf, rydym wedi talu am ddiffyg cyllid cyson sy’n dod i gyfanswm o £68 miliwn, a bydd rhaid inni ddod o hyd i £29 miliwn ychwanegol ar ben hynny erbyn 2024. Rydym wedi talu am ran helaeth y diffyg hwn trwy arbedion effeithlonrwydd mewnol, a thrwy ddod i hyd i ffyrdd newydd o weithio a chyflenwi gwasanaethau.
Gellir gweld dwy enghraifft o hyn yn y broses trosglwyddo asedau cymunedol, sy'n galluogi clybiau chwaraeon a chynghorau tref a chymuned i gymryd cyfrifoldeb dros reoli meysydd, pafiliynau ac ystafelloedd newid, a'n cynllun prentisiaeth newydd, sydd â’r nod o gadw profiad a sgiliau staff arbenigol a sicrhau nad yw gwasanaethau yn dod yn fregus.
Efallai bod cyni cyllidol o hyd gyda ni, ond fel mae'r gyllideb hon yn dangos, rydym yn parhau i wynebu heriau dyfodol anodd ac ansicr, ac rydym yn ymrwymedig o hyd i gyflenwi gwasanaethau o safon uchel i bobl leol wrth amddiffyn yr aelodau sy’n agored i’r niwed mwyaf yn y gymuned.