Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyllideb y cyngor 2023-24: Beth mae’n ei olygu i Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Mae cynigion y gyllideb ar gyfer 2023-24 wedi cael eu cymeradwyo gan Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i sicrhau y gall yr awdurdod lleol barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol, a thaclo rhai o’r heriau mwyaf anodd y mae wedi’u hwynebu erioed.  

Os caiff ei chymeradwyo pan gaiff ei chyflwyno i’r Cyngor am benderfyniad terfynol ar 1 Mawrth, byddai’r gyllideb yn golygu y bydd yr awdurdod yn gwario £137m ar wasanaethau a ddarperir gan y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd dros y flwyddyn i ddod, a byddai £110m o’r swm yn mynd i ysgolion i gefnogi costau rhedeg, cyflogau athrawon a staff a mwy.  

O ran buddsoddiad cyfalaf, bydd cyfanswm o £26.9m yn cael ei fuddsoddi yn 2023-24. Mae hyn yn cynnwys £1.6m ar gyfer bloc addysgu newydd yn Ysgol Gyfun Bryntirion, £1.1m i sefydlu darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg ym Mhen-y-bont a Phorthcawl, a £950,000 ar gyfer estyniadau yn ysgolion cynradd Coety a Phencoed.  

Gyda dros £1.9m i gefnogi adnewyddiad parhaus ceginau ysgolion a chyflwyniad prydau ysgol am ddim, bydd £386,000 yn cael ei fuddsoddi i gae chwaraeon pob tywydd yn Ysgol Brynteg, a £220,000 i ddarparu dosbarthiadau symudol o’r radd flaenaf yn Ysgol Gymraeg Bro Ogwr.

Mae’r cyngor eisoes wedi gwario £21.6m ar adeiladu ac adnewyddu ysgolion yn rhan o Fand A o’r rhaglen Moderneiddio Ysgolion y 21ain Ganrif, ac mae wedi ymrwymo i £19m ychwanegol yn rhan o Fand B. Mae dros £10.5m wedi’i ddyrannu i ysgolion Band B yn 2023-24, yn ogystal â £3,300 ar gyfer cynlluniau priffyrdd cysylltiedig.  

Bydd Ysgol Gynradd Abercerdin yn derbyn £267,000 i sefydlu hwb dysgu newydd, a bydd £71,000 yn cael ei fuddsoddi i waith diogelwch traffig o amgylch ysgolion lleol. Bydd ysgolion hefyd yn derbyn mwy na £3.9m drwy’r grant cynhaliaeth cyfalaf, a bydd £548,000 yn cefnogi gwaith i’w helpu nhw i ddatblygu rhagor o gyfleusterau all gael eu rhannu gyda’r gymuned leol.  

Er bod oddeutu £40,000 yn cael ei arbed drwy ddirprwyo rhai o gyfrifoldebau trafnidiaeth i ddarparwyr, gofynnir i ysgolion gyflawni arbedion o £2.1m ar gyfer 2023-24 - y tro cyntaf y maent wedi derbyn cais o’r fat hers 2010-11.

Yn draddodiadol, rydym wedi gwneud popeth yn ein gallu i amddiffyn a diogelu cyllidebau ysgolion, ac rwy’n falch o’r ffaith ein bod wedi gallu cyflawni hyn dros y degawd diwethaf, er gwaethaf diffyg cyffredinol o £72m mewn cyllid cynghorau. Yn anffodus, gan ein bod wedi cyrraedd pwynt lle does dim modd gwneud hyn mwyach, rydym yn gofyn i benaethiaid gydweithio â ni i bennu lle mae modd cyflawni arbedion effeithlonrwydd.

Credwn fod hyn yn bosibl, gan fod y cyngor yn darparu ar gyfer y setliad cyflog i athrawon, sy’n golygu cynnydd yng nghyfanswm y cyllid net i ysgolion. Felly hefyd, er bod cludiant o’r cartref i’r ysgol wedi’i ystyried yn wreiddiol yn faes arall ar gyfer arbedion, mae cynllunio ariannol gofalus wedi golygu nad ydym bellach yn bwriadu cyflwyno toriadau i’r gwasanaeth hwn.

Ar ôl dros ddegawd o orfod dod o hyd i arbedion bob blwyddyn a datblygu ffyrdd newydd o gynnig gwasanaethau, mae’r gyllideb 2023-24 wedi bod yn un o’r rhai anoddaf inni orfod eu gosod fel awdurdod, ond rwy’n falch ei bod hefyd yn cynnwys dros £26.9m o fuddsoddiad cyfalaf a fydd yn cael ei ddefnyddio i ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau newydd mewn ysgolion lleol. Gyda’r gyllideb hon, rydym wedi blaenoriaethu lles ein disgyblion, ac yn sicrhau y gallent gael yr amgylcheddau dysgu a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i elwa o’r dechrau gorau posibl mewn bywyd.

Dywedodd y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, Aelod Cabinet dros Addysg:

Bydd cyllideb y cyngor ar gyfer 2023-24 yn cael ei thrafod gan bob aelod yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ddydd Mercher 1 Mawrth, cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Chwilio A i Y